Organau: Gwerthwynebiad crefyddol

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn rhoi organauFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai cyfraith newydd arwain at chwarter yn fwy o organau'n cael eu rhoi

Mae cynlluniau i newid y drefn o roi organau yng Nghymru yn wynebu gwrthwynebiad gan rhai o fewn cymunedau Iddewig a Mwslemiaid.

Mae arweinwyr crefyddol eraill eisoes wedi mynegi gwrthwynebiad i'r ddeddfwriaeth newydd fydd yn mynd gerbron y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn.

O dan y drefn arfaethedig bydd pobl yn rhoddwyr os nad ydyn nhw wedi optio allan o fod ar y gofrestr rhoi organau.

Cafodd arolwg ei gynnal fel rhan o'r broses ymgynghori ynglŷn â'r Mesur Drafft ar Drawsblannu Dynol (Cymru).

Llythyr

O ran yr arolwg roedd 49% o blaid y mesur a 22% yn erbyn.

Ond o'r 2,891 o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad - roedd 2,395 yn llythyrau tebyg wedi eu harwyddo gan Fwslemiaid o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Roedd y llythyrau wedi ei selio ar dempled wedi ei lunio gan Gymdeithas er Mwyn Amddiffyn Plant heb eu Gweni.

Dywed Dr Abdalla Yassin Mohamed, aelod o Gyngor Cyngor Moslemiaid Cymru nad oedd ganddo wrthwynebiad i hawl tybiedig.

Ychwanegodd fod y gwrthwynebiad oedd yn bodoli wedi ei selio am bryder ynglŷn â'r diffiniad o ymennydd marw yn Islam.

Galwodd am drafodaeth am y mesur rhwng arbenigwyr meddygol ac arbenigwyr ac arweinwyr Islam.

"Yna dylid rhoi'r wybodaeth i unigolion allweddol y gymuned Mwslemiaid......yna pe bai nhw wedi eu perswadio bydd perswadio eraill ddim yn broblem."

Mae Dr Sajad Ahmad, meddyg teulu o Gaerdydd yn un o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r mesur newydd.

"Yn bersonol rwy'n teimlo bod yna ormod o hast a dim digon o ystyriaeth a thrafodaeth wedi bod. Mae tybio bod iau rhywun arall yn eiddo i chi ar ôl iddynt farw - mae hynny'n anghywir."

Dywedodd Stanley Soffa, cadeirydd Cyngor Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru "Rydym yn credu y dylai pobl, neu deulu'r rhai sydd wedi marw, fod yn gallu cytuno rhoi organau fel rhodd.

"Byddai'n well pe na bai yna fesur."

Dywed swyddogion Llywodraeth Cymru na fydd pasio'r mesur yn golygu newid agweddau allweddol yn y drefn glinigol.

Teuluoedd

Ar hyn o bryd maes nyrsys arbenigol yn cysylltu â theuluoedd rhoddwyr posib - hyd yn oed os nad ydynt ar y rhestr.

Cred Llywodraeth Cymru bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gweld cynnydd yn y nifer sy'n rhoi organau. Maen nhw'n gobeithio gweld 15 o roddwyr ychwanegol bob blwyddyn, gan olygu bod 45 yn fwy o organau ar gael.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi llwyr ymroi fel rhan o'r ddeddfwriaeth, i sicrhau ein bod yn cyfathrebu a phawb yng Nghymru ynglŷn â'r newidiadau.

"Rydym nawr yn arolygu'r mesur drafft a'r modd yr ydym yn egluro rôl y teulu, a hynny yn wyneb yr ymateb i'r ymgynghoriad."

"Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau crefyddol ac mae ein swyddogion wedi cwrdd â grwpiau Iddewig a grwpiau Mwslemiaid.

Ychwanegodd: "O dan y drefn bresennol, mae clengwyr yn cynorthwyo teuluoedd ac yn ceisio eu helpu i wneud penderfyniadau ar sail eu crefydd, a hyn er bod y person ar y rhestr rhoi a bod ganddynt hawl cyfreithiol i fwrw malen gyda thrawsblaniad.

"Bydd yr un drefn yn cael ei dilyn mewn egwyddor pe bai'r ddeddfwriaeth yn dod i rym."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol