Canfod esgidiau Olympaidd seiclwr yn dilyn apêl
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod esgidiau Olympaidd gael eu dwyn o gar seiclwr yng Nghaerdydd wedi cael eu darganfod.
Roedd seiclwr Cymru, Lewis Oliva wedi parcio ei gar ger Ysbyty Athrofaol Cymru nos Fawrth pan ddigwyddodd y lladrad.
Ymysg yr eitemau gafodd eu dwyn o'i gar oedd esgidiau seiclo arbenigol.
Cafodd yr apêl ei wneud gan bartner Oliva, Ciara Horne - sy'n bencampwr seiclo Ewropeaidd - ar Twitter.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod yr esgidiau wedi eu darganfod ar ffordd gefn yn ardal Eglwys Newydd y ddinas, a'u bod yn y broses o drosglwyddo'r esgidiau'n ôl i Oliva.
Fe ddiolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu cynorthwyo gyda'r apêl, ac mae'r achos yn parhau i fod yn destun ymchwiliad.