Cerbyd yn taro prif fynedfa Ysbyty yng Nglyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd ym mynedfa Ysbyty Aneurin BevanFfynhonnell y llun, @gpebbwvale
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd ym mynedfa Ysbyty Aneurin Bevan

Mae rheolwyr Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy wedi gorfod cau prif fynedfa'r adeilad ar ôl i gerbyd daro'r adeilad.

Mewn neges ar eu cyfrif Twitter dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ei bod hi'n amhosib defnyddio'r fynedfa oherwydd digwyddiad am tua 03:00 fore Iau.

Ond maen nhw'n pwysleisio bod holl wasanaethau'r ysbyty yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer.

Dywedodd yr heddlu fod swyddogion ar y safle yn cynnal ymchwiliad, wedi'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel achos bwriadol o daro'r adeilad.

Fe wnaeth y bobl oedd yn y car ffoi o'r safle, ond mae'r heddlu'n dweud nad yw'n ymddangos fod unrhyw beth wedi cael ei ddwyn yn y digwyddiad.

Maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd am wybodaeth.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod arwyddion yn dangos ffyrdd gwahanol i bobl fynd i mewn i'r ysbyty.