Carchar i ddyn am wneud galwadau ffug i dîm achub mynydd

  • Cyhoeddwyd
Michael Parry CuminskeyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 23 oed wedi ei garcharu am 16 mis, wedi iddo wneud nifer o alwadau ffug ei fod wedi ei anafu wrth fynydda.

Fe blediodd Michael Parry Cuminskey o Darlington yn euog i ddau gyhuddiad o achosi niwsans cyhoeddus yn dilyn y galwadau yn Eryri ac yn Cumbria ym mis Mawrth 2016.

Dywedodd y barnwr Huw Rees fod Cuminskey wedi ei ganfod yn euog o drosedd tebyg yn Yr Alban.

Clywodd y llys fod Cuminskey yn ddyn ifanc bregus, oedd wedi bod mewn gofal ers yn blentyn.

Roedd hefyd yn crefu sylw a chefnogaeth.

Ond dywedodd y Barnwr Rees fod cyfnod o garchar yn addas er mwyn diystyru eraill rhag ymddwyn yn yr un modd.

Roedd yn rhaid i swyddogion diogelwch ymatal Cuminskey rhag aflonyddu yn y doc, wrth iddynt ei hebrwng i'r celloedd yn dilyn y ddedfryd.