'Cryfhau' cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n cryfhau ei chysylltiadau gyda Gweriniaeth Iwerddon yn dilyn Brexit, medd Ysgrifennydd Cyllid Cymru.
Mae Mark Drakeford, ynghyd ag arweinydd y DUP Arlene Foster, ac arweinydd Fianna Fáil, Micheál Martin wedi teithio i Killarney i fod ar banel mewn cynhadledd economaidd yno.
Dywedodd Mr Drakeford fod gweinidogion Cymru'n "ymrwymiedig i ddyfnhau'r cysylltiadiadau" ag Iwerddon y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd bod yn rhaid cynnal y partneriaethau "gwych a chreadigol".
Roedd y panel yn ystyried effaith gadael yr UE ar fusnes, gwleidyddiaeth, y gyfraith a bywydau pobl yn gyffredinol.
'Trysori'n perthynas'
Tra'n siarad cyn y gyhadledd, dywedodd Mr Drakeford: "Rydym yn trysori'n perthynas gydag Iwerddon ac yn ymrwymiedig i ddyfnhau'n cysylltiadau y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o ystyried y cysylltiad agos, y gwerthoedd rydym yn eu rhannu a'r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy genedl."
"Fel cenedl eangfrydig, rydym eisiau cynnal ac adeiladu ar rwydweithiau rhyngwladol trwy gymryd rhan mewn rhaglenni ar y cyd.
"Rydym yn rhoi gwerth mawr ar Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC), gan gynnwys ein rhaglenni trawsffiniol gyda'n cymdogion agosaf."
Ychwanegodd fod cynlluniau o'r fath yn cynnig ffyrdd o ddarganfod datrysiadau i heriau sy'n gyffredin rhwng y gwledydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017