Heddlu'n apelio wedi ymosodiad difrifol yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ifan Richards OwensFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl arall am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod Ifan Richards Owens, sy'n 19 ac o Gaerdydd, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae swyddogion yn apelio eto am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad ar Y Stryd Uchel yn Aberystwyth am tua 02:20 fore Sul, 14 Ionawr.

Y tro yma maen nhw'n gofyn yn benodol i unrhyw un wnaeth rhoi cymorth cyntaf i Mr Owens i gysylltu gyda nhw.

Cafodd Ifan Owens, myfyriwr yn Aberystwyth, ei ddarganfod yn anymwybodol a'i gludo i Ysbyty Bronglais.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffyrdd eu cau yn yr ardal wrth i'r heddlu gynnal ymholiadau

Yna fe aeth mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un wnaeth weld beth ddigwyddodd neu sydd gyda lluniau CCTV neu fideo i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd eu bod yn dechrau "apêl o'r newydd am lygad dystion i'r ymosodiad ar Ifan Richards Owens".

Cymorth cyntaf

"Yn benodol bydden ni yn hoffi siarad gydag unrhyw un wnaeth rhoi cymorth cyntaf i Mr Owens cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 gan roi cyfeirnod 402 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555111."

Mae tri dyn 20, 23 a 25 oed wedi eu harestio ar gyhuddiad o achosi anafiadau difrifol bwriadol ac yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth dydd Llun bod "lles a diogelwch" eu myfyrwyr yn hollbwysig.

"Mae'n meddyliau ar hyn o bryd gydag Ifan, ei deulu a'i ffrindiau," meddai.

"Mae staff o'n Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr wrth law i gynnig cyngor a chefnogaeth, ac fe fyddem yn annog unrhyw lygaid-dystion posib i ymateb i apêl Heddlu Dyfed-Powys am wybodaeth."