Marwolaethau A487: 200 mewn gwylnos i gofio dynes a babi
- Cyhoeddwyd
Mae tua 200 o bobl wedi bod mewn gwylnos ym Mhorthmadog i gofio am ddynes a babi fu farw wedi gwrthdrawiad difrifol yng Ngwynedd.
Bu farw Anna Williams, 22 ac o ardal Penrhyndeudraeth, a Mili Wyn Ginniver, oedd yn chwe mis ac o Flaenau Ffestiniog, yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car a lori ger Gellilydan ar 11 Ionawr.
Mae mam Mili, Sioned Williams, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke.
Dywedodd cynghorydd lleol bod y digwyddiad wedi "syfrdanu" pawb yn yr ardal.
Roedd y dair yn teithio mewn Ford Fiesta oedd mewn gwrthdrawiad â lori ddydd Iau.
Ddydd Llun, diolchodd tad Mili a phartner Sioned Williams, Luke Ginniver, am y gefnogaeth y mae wedi ei gael ar ôl y digwyddiad.
Diolchodd am gyfraniadau ariannol, sydd wedi pasio £13,000, fyddai'n "help enfawr, enfawr dros yr wythnosau a misoedd i ddod".
Ychwanegodd bod ei bartner yn parhau mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog".
Yn yr wylnos, dywedodd Cynghorydd Penrhyndeudraeth, Gareth Thomas bod y digwyddiad "wedi syfrdanu pawb yn yr ardal" a bod y gymuned "wedi cael clec go iawn".
"Ond wrth gwrs meddwl am y teulu ydyn ni, ac mae be' maen nhw'n mynd drwyddo fo yn erchyll.
"Be' 'da chi'n weld ydy cymuned yn cael sioc i ddechra' hefo, a dod at ei gilydd wedyn i gefnogi'r teulu, ac mae'r gefnogaeth yn Penrhyn a'r ardal yn anhygoel."
'Meddwl am y teulu'
Un oedd yn yr wylnos oedd Sharon Jones: "Mae pawb 'di teimlo'n ofnadwy ar ôl be sy' 'di digwydd, ac mae'n ffor' i bobl dd'eud ein bod ni yma ac yn meddwl am y teulu.
"Mae Port a Penrhyn a Blaenau, 'da ni gyd yn nabod ein gilydd, ac mae o'n ffordd o ddeud bod ni'n meddwl amdana' chi."
Mae disgwyl gwylnos arall ym Mhenrhyndeudraeth nos Iau, wythnos wedi'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018