Gwrthdrawiad A487: Cronfa'n codi dros £10,000

  • Cyhoeddwyd
GwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Anna Williams a Mili Wyn Ginniver wedi gwrthdrawiad â lori ar yr A487

Mae cronfa sydd wedi ei sefydlu i helpu teulu dynes a baban gafodd eu lladd mewn gwrthrawiad ar yr A487 ddydd Iau, wedi codi dros £10,000 o fewn diwrnod.

Bu farw Anna Williams, 22 oed o ardal Penrhyndeudraeth yn y fan a'r lle ar ôl i'r car Ford Fiesta yr oedd yn teithio ynddo wrthdaro â lori yn Ngellilydan.

Daeth cadarnhad ddydd Gwener fod Mili Wyn Ginniver o Flaenau Ffestiniog, oedd yn chwe mis oed, wedi marw yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Ffynhonnell y llun, Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ffordd yng Ngellilydan ynghau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad

Mae'r wraig oedd yn gyrru'r car wedi ei henwi'n lleol fel mam i Mili a chwaer i Anna Williams.

Mae Sioned Williams yn parhau i fod yn ddifrifol wael mewn uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke.

'Helpu'r teulu'

Dywedodd ffrind i'r teulu, Glesni Davies, ei bod wedi sefydlu cronfa "i helpu'r teulu gyda theithio, gwesty a chostau eraill".

"Yn dilyn y ddamwain drashig aeth â bywydau Anna a'i nith Mili, gan adael Sioned yn brwydro am ei bywyd yn Ysbyty Stoke, rydym fel cymuned glos yn ceisio codi arian i'r teulu ei ddefnyddio fel y mynnan nhw, i godi'r baich ariannol ar deithio, gwesty ayb."

Mae heddlu arbenigol yn parhau i gynorthwyo'r teulu ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.