Cwmni bysiau wedi cael ei redeg fel 'siop siafins'

  • Cyhoeddwyd
Express MotorsFfynhonnell y llun, Google

Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi clywed bod cwmni teuluol o Wynedd a gollodd yr hawl i weithredu fel cwmni bysiau yn cael ei redeg mewn ffordd anhrefnus.

Collodd Express Motors o Benygroes ei drwydded ar 31 Rhagfyr ar ôl i ymchwiliad ddatgelu bod cofnodion cynnal a chadw wedi cael eu ffugio.

Mae aelod o'r teulu oedd yn gweithio i'r cwmni, Rhian Wyn Davies, yn ceisio am drwydded dan enw cwmni newydd, Express Motors Caernarfon Ltd (EMC).

Mae Comisiynydd Traffig Cymru, Nick Jones, wedi bod yn ystyried y cais mewn gwrandawiad yn Y Trallwng, ac fe fydd yn cyhoeddi ei benderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig o fewn pedair wythnos ar ôl ystyried y cais.

Wrth gyfeirio at y ffordd y cafodd yr hen gwmni ei redeg, dywedodd Ms Davies: "Roedd yn siop siafins.

"Roeddan nhw'n dal i'w redeg fel fyddan nhw wedi gwneud yn y 1970s... mae angen i bopeth symud i'r 21ain ganrif."

Dywedodd y byddai ei gŵr Irfon yn ei helpu gyda'r busnes newydd, pe byddai'n llwyddo i gael trwydded.

Ychwanegodd y byddai cwmni newydd ac enw gwahanol yn atal pobl rhag eu cysylltu â rheolwyr yr hen gwmni.

Torri'r cysylltiad

Fe glywodd y gwrandawiad bod yna amheuaeth bod Express Motors wedi benthyg trwydded cwmni arall i gludo plant ysgol i wersi nofio yn gynharach yn y mis.

Dywedodd y comisiynydd: "Mae'n ymddangos i mi bod hynny'n achos o weithredu heb drwydded" - datganiad a gafodd ei dderbyn gan Ms Davies.

Ond fe fynnodd nad cais oedd hwn ar ran yr hen gwmni dan enw pennaeth newydd, gan ychwanegu y byddai'n torri'r cysylltiad gyda'r holl berthnasau perthnasol pe byddai hynny'n bosib.

Fe glywodd yr ymchwiliad bod perchnogaeth y modurdy wedi ei rhannu rhwng aelodau'r teulu, ac mai un rhan o chwech yw gwerth cyfran Ms Davies.

Mae hi'n gofyn am yr hawl i redeg 15 o fysiau, a fyddai ar les.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn poeni am y ffaith mai ei theulu sydd piau'r rhan fwyaf o'r asedau, gan godi'r cwestiwn a fyddai'n bosib iddi eu hatal rhag "gweithredu a dylanwadu" arni.