Rhybudd fod risg diogelwch unedau brys yn 'annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorwyr brys mewn ysbytai yng Nghymru wedi ysgrifennu at y prif weinidog Carwyn Jones yn dweud fod diogelwch yn cael ei beryglu "i raddau annerbyniol".
Dywedodd y grŵp eu bod yn cydnabod cyfyngiadau ariannol ond fe ddywedon nhw fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a'r sector gofal cymdeithasol ymhell o fod yn cael digon o adnoddau.
Daw hynny wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans wedi delio â mwy o gleifion ym mis Rhagfyr nag erioed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod "yn agored" ynglŷn â'r her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd.
Llai yn cyrraedd y targed
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf roedd perfformiad adrannau brys yng Nghymru yn waeth ym mis Rhagfyr 2017 o'i gymharu â'r un mis llynedd.
Dim ond 78.9% o gleifion wnaeth dreulio llai na phedair awr mewn adran frys yn ystod eu hymweliad, y ffigwr isaf ers Mawrth 2016.
Roedd hynny 1.5 pwynt canran yn is na Rhagfyr 2016 - y targed cyffredinol yw y dylai 95% o gleifion gael eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr.
Fis diwethaf fe wnaeth 3,741 hefyd dreulio 12 awr neu fwy mewn cyfleuster gofal brys, cynnydd o 769 claf o'i gymharu â Rhagfyr 2016.
Yn ôl targedau'r llywodraeth ddylai neb fod yn aros mor hir â hynny mewn adran frys.
Fe wnaeth y ffigyrau hefyd ddangos, fodd bynnag, fod nifer y cleifion aeth i adrannau brys 5.4% yn uwch na'r un mis y gaeaf diwethaf, a dros y mis cyfan cafwyd mwy o ymweliadau'r dydd ar gyfartaledd nag unrhyw fis ers i gofnodion ddechrau cael eu cyhoeddi yn 2006.
'Ar ei liniau'
Yn eu llythyr at Carwyn Jones dywedodd yr ymgynghorwyr nad oedden nhw'n amau'r ymdrech oedd wedi mynd tuag at gynllunio ar gyfer y gaeaf, ond nad oedd wedi bod yn ddigon i "ddarparu gofal digonol i'n cleifion".
"Does gennym ni ddim digon o staff na digon o wlâu (mewn ysbytai aciwt nac yn y gymuned) i ddelio â gofynion poblogaeth sy'n heneiddio," meddai'r llythyr.
Fe ddywedon nhw hefyd fod adrannau brys yng Nghymru "mewn rhai ffyrdd" yn waeth nag yn Lloegr, gyda staff yn dod i'r gwaith i ganfod cleifion dal yno o'r diwrnod cynt, a rhai mewn dagrau oherwydd nad oedden nhw'n gallu ymdopi.
Yn ôl un o'r rheiny arwyddodd y llythyr, Dr Tim Rogerson, mae'r gwasanaeth gofal brys "ar ei liniau".
"Mae gennym ni gleifion yn dod i adrannau brys sydd eisoes yn llawn," meddai Mr Rogerson, ymgynghorydd mewn meddyginiaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.
"Mae hynny'n gallu golygu eu bod yno'n hirach, gallu gwaethygu eu salwch ac mewn rhai achosion arwain at farwolaeth, felly er lles diogelwch a gofal cleifion rydyn ni'n bryderus iawn, iawn."
Mae llythyr yr ymgynghorwyr yn galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i daclo'r mater "ar frys", gan gynnwys adolygu nifer y gwlâu sydd ar gael ar gyfer gofal aciwt a "chynnydd sylweddol" yn yr arian ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol.
'Ddim yn annisgwyl'
Yn ôl adroddiadau, mis Rhagfyr 2017 oedd y prysuraf erioed ar gyfer galwadau "coch" perygl-i-fywyd i'r gwasanaeth ambiwlans.
Gwelwyd cynnydd o 50% yn nifer y galwadau coch ar Nos Galan, ac roedd y gwasanaeth tu-allan-i-oriau 30% yn brysurach ar rai dyddiau.
Ond mae'r patrymau wedi bod yn anodd eu cymharu â blynyddoedd cynt oherwydd bod cynnydd wedi digwydd ar adegau gwahanol.
Mae prif weithredwr GIG Cymru Dr Andrew Goodall a'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething eisoes wedi ymddiheuro ar ôl i driniaethau gael eu canslo yn dilyn y prysurdeb "sylweddol".
"Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol i ni ac mae'n wir fod pwysau ar staff ond dwi eisiau cydnabod fod y GIG yn brysur drwy gydol y flwyddyn - mae gennym ni tua miliwn o bobl yn dod i adrannau brys bob blwyddyn," meddai Dr Goodall.
Dywedodd y GIG yng Nghymru eu bod wedi rhyddhau 400 o wlâu ychwanegol dros y Nadolig - cymaint ag ysbyty newydd.
Ond yn ôl Dr David Bailey, cadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru, mae angen rhagor o le mewn ysbytai.
"Rydych chi'n gallu cynllunio ar gyfer cyfnodau prysurach... ond mae mwy o bobl yn mynd yn sâl yn ystod y gaeaf bob blwyddyn. Dyw hyn ddim yn annisgwyl ac mae angen mwy o le."
'Gwarchod gwariant'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi arian i geisio lliniaru problemau'r gaeaf.
"Mae'r gwahanol sefydliadau o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyfnod y gaeaf am rai misoedd ac maen nhw wedi derbyn cefnogaeth o £50m oddi wrthym er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion brys a thriniaeth sydd wedi ei drefnu o flaen llaw," meddai.
"Er gwaethaf toriadau i'r gyllideb (o'r Trysorlys) rydym wedi parhau i warchod gwariant ar iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.
"Fe wnaeth gwariant y pen gynyddu 5% yng Nghymru yn 2016-17. Mae hynny yn gynnwys mwy nag yng ngweddill gwledydd y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2018