CPD Bangor: Dau aelod o'r bwrdd yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod o fwrdd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi ymddiswyddo yn ddisymwth.
Mewn datganiad nos Iau, dywedodd y clwb hefyd eu bod yn atal unrhyw ddefnydd o Stadiwm VSM Bangor, gan gynnwys y cae ymarfer 3G, ar unwaith, a hynny "am resymau anrhagweladwy".
Mae'r clwb wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond nid oedd eglurhad pellach am y penderfyniad.
Brynhawn Gwener maen nhw wedi cyhoeddi ail ddatganiad sy'n cynnig ychydig mwy o fanylion.
'Rhesymau am y penderfyniad'
Daw'r datganiad newydd yn dilyn cyfarfod brys o fwrdd y clwb fore Gwener, ac mae'n dweud: "Mae'r clwb pêl-droed yn agored i'w ddefnyddio gan CPD Dinas Bangor ac Academi CPD Dinas Bangor ynghyd ag unrhyw ddigwyddiadau eraill sydd eisoes wedi eu trefnu yn yr ystafell ddigwyddiadau.
"Ond mae pob gweithgaredd arall wedi eu gohirio tan y bydd cytundeb rhwng Nantporth CIC a Chwaraeon Cymunedol Bangor.
"Mae yna resymau y tu ôl i'r penderfyniad na fydd yn cael eu rhannu fel y gallwn barhau gyda thrafodaethau i ddatrys y sefyllfa er budd gorau'r clwb pêl-droed."
Wrth ad-drefnu bwrdd y clwb, fe ddywed y datganiad gwreiddiol fod y cadeirydd, Gordon Craig, ac ysgrifennydd y cwmni Nick Wood wedi ymddiswyddo.
Daeth y clwb dan berchnogaeth newydd ym Mehefin 2016 a bu Gordon Craig yn gysylltiedig â'r clwb ers hynny, yn gyntaf fel llywydd cyn dod yn gadeirydd gydag ymadawiad y cadeirydd cyntaf Ivor Jenkins.
Mae'r clwb ar eu pumed rheolwr ers i'r cwmni newydd gymryd yr awenau.
Ar hyn o bryd mae'r clwb yn drydydd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Wrth son am y newidiadau, dywedodd datganiad ddydd Gwener: "O safbwynt y newidiadau ar y bwrdd, fe fydd cyhoeddiad maes o law gan ei fod yn bwysig i ni benodi'r bobl iawn i symud y clwb ymlaen."
'Yn y twyllwch'
Un sydd wedi mynegi pryder dros y sefyllfa yw cefnogwr Bangor a'r sylwebydd pêl-droed, Ian Gill.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Gwener dywedodd Mr Gill:
"Dwi fel pob cefnogwr arall yn y twyllwch ar hyn o bryd.
"Pan symudodd y clwb o Ffordd Farrar i Nantporth chwe mlynedd yn ôl, roedd na drefniant yn Ffordd Farrar fod y clwb yn denantiaid i Gyngor Dinas Bangor, ac oni dan yr argraff fod y trefniant hwnnw'n parhau.
"Dwi'm cweit yn dallt sut maer clwb yn gallu dweud fod yr adnodda ddim ar gael i'r gymuned eu defnyddio ddim mwy.
"Mae'r sefyllfa wedi bod i fyny ac i lawr, ers i'r perchnogion newydd ddod i mewn, mai wedi bod fel meri go rownd efo chwaraewyr a rheolwyr yn mynd a dod, ac mae na deimlad wedi bod fod petha ddim cweit yn iawn."
Ychwanegodd Mr Gill: "Mae na lot yn teimlo fel fi, ac os fysa'r ddau 'ma sydd wedi ymddiswyddo yn eistedd wrth fy ymyl i rwan, dwi ddim yn meddwl y byswni'n eu nabod nhw. Ond mae angen i bawb ddod at eu gilydd rwan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2016