Ymosodiad Aberystwyth: Heddlu'n arestio pumed dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar fyfyriwr yn Aberystwyth wedi arestio pumed dyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod y dyn 24 oed yn parhau i gael ei holi yn dilyn yr ymosodiad.
Mae Ifan Owens, 19 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau i'w ben yn dilyn ymosodiad ar Stryd Uchel yn y dref yn gynnar fore Sul.
Fe gafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn gynharach, ond mae bellach wedi'i ryddhau ar fechniaeth, ac mae tri dyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o'r un cyhuddiad wedi cael eu rhyddhau gan yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio unwaith eto ar ddyn a roddodd gymorth cyntaf i Ifan Owens gysylltu â nhw.
Dywedodd DCI Anthony Evans, o Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn dal i geisio dod o hyd i'r dyn a roddodd gymorth cyntaf i Ifan wedi'r digwyddiad.
"Rydym yn credu fod ganddo wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.
"Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiadau a arweiniodd at Mr Owens yn cael ei anafu yn parhau ac rydyn ni'n parhau i apelio am dystion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018