Ymosodiad Aberystwyth: Heddlu'n holi pedwar dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar fyfyriwr 19 oed yn Aberystwyth wedi arestio pedwerydd dyn.
Cafodd Ifan Richards Owens o Gaerdydd ei ddarganfod yn anymwybodol, ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd tri dyn, 20, 23 a 25 oed, eu harestio, a dydd Mawrth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn arall, 19 oed, hefyd wedi ei arestio.
Mae'r pedwar wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac yn parhau yn y ddalfa.
Apelio eto
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Anthony Evans o Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth am yr ymosodiad ar y Stryd Uchel am tua 02:20 fore Sul.
"Yn benodol byddwn yn hoffi siarad ag unrhyw un wnaeth geisio rhoi cymorth cyntaf i Mr Owens cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd," meddai.
Ar ôl y digwyddiad cafodd Mr Owens, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei gludo i Ysbyty Bronglais ac yna ei gludo mewn hofrennydd i'r Ysbyty Athrofaol.
Ychwanegodd yr heddlu: "Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 gan roi cyfeirnod 402 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555111."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar unwaith.
"Mae staff o'n Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr wrth law i gynnig cyngor a chefnogaeth, ac fe fyddem yn annog unrhyw lygad-dystion posib i ymateb i apêl Heddlu Dyfed-Powys am wybodaeth."
"Mae'n meddyliau ar hyn o bryd gydag Ifan, ei deulu a'i ffrindiau," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2018