Apelio i drawsgrifio dogfennau tribiwnlysoedd Rhyfel Byd

  • Cyhoeddwyd
llyfrgell

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn apelio am wirfoddolwyr i'w cynorthwyo i drawsgrifio dogfennau prin sy'n rhoi golwg ar un agwedd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae dogfennau tribiwnlysoedd dynion oedd ddim am fynd i'r rhyfel yn brin, ond mae'r dogfennau o Sir Aberteifi wedi goroesi.

Ar hyn o bryd mae'r llyfrgell yn y broses o'u trosglwyddo i'r we ac yn chwilio am wirfoddolwyr i lwytho gwybodaeth i gyd-fynd â'r dogfennau, sy'n cynnwys amrywiaeth o resymau am gael eu hesgeuluso rhag mynd i ymladd.

Roedd rhai o'r rhesymau gafodd eu rhoi gan ddynion yn Sir Aberteifi dros ganrif yn ôl er mwyn ceisio osgoi mynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys "Mae gen i fusnes i'w redeg", "Mae fy mam oedrannus yn dibynnu ar fy nghyflog", a "Rwy'n hyfforddi i fod yn weinidog".

Eu rhoi ar y we

Mae'r enghreifftiau yma a miloedd o resymau eraill i'w gweld yn nogfennau gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn y broses o gael eu rhoi ar y we.

Mae'r dogfennau yn rhai prin gan fod y mwyafrif helaeth o bapurau'r tribiwnlysoedd rhyfel wedi cael eu dinistrio.

Ond rhywsut mae rhai Sir Aberteifi wedi goroesi, gan gynnig golwg nôl ar hanes y cyfnod.

"Beth sydd wedi bod yn agoriad llygad i mi oedd mod i'n meddwl falle mai dim ond gwrthwynebwyr cydwybodol oedd yn apelio i fynd i ryfel, ond mae 'na bob math o resymau," meddai Gwyneth Davies o'r Llyfrgell Genedlaethol.

"Mae 'na bobl sydd yn rhedeg busnesau. pobl sydd â'u mamau a'u tadau yn hollol ddibynnol arnyn nhw, pobl falle ag aelodau'r teulu'n sâl, neu'n rhedeg ffarm."

Ychwanegodd: "Os oedden nhw'n caniatáu [iddyn nhw ymwrthod o ymladd], fel arfer roedden nhw'n gofyn iddyn nhw, neu ddweud y byddai'n rhaid iddyn nhw wasanaethu yn rhywbeth fel y medical corps, felly doedden nhw ddim yn dianc yn gyfan gwbl."