Fforwm amaeth newydd i glywed llais pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Y lansiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fforwm ei lansio ym mrecwast fferm Undeb Amaethwyr Cymru

Bydd ffermwyr ifanc Cymru'n cydweithio â gweinidogion y llywodraeth i ddatblygu polisi amaeth fel rhan o fforwm newydd.

Bydd aelodau'n cael y cyfle i drafod eu barn yn uniongyrchol a gwleidyddion blaenllaw a swyddogion.

Mae cynllun grant gwerth £6m wedi'i gyhoeddi hefyd, i geisio datblygu sgiliau arwain ymysg ffermwyr ifanc a newydd ddyfodiaid i'r diwydiant.

Perchnogion ffarm yn heneiddio

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd yn helpu'r sector amaeth i baratoi ar gyfer y cyfleoedd a'r heriau sy'n ei wynebu yn sgil Brexit.

Mae'r undebau amaeth wedi bod yn galw am gynllun penodol ar gyfer ffermwyr ifanc, gan godi pryderon y gallai'r diwydiant "aros yn yr unfan" heb waed newydd.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae'r gweithlu amaethyddol yn heneiddio - gydag oed perchennog fferm yng Nghymru bellach dros 60 ar gyfartaledd - ac ond 3% dan 35.

Wrth lansio'r gronfa a'r fforwm newydd ym mrecwast fferm Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ym Mae Caerdydd bore Mawrth, fe fynnodd yr Ysgrifennydd dros Gefn Gwlad Lesley Griffiths bod cefnogi'r genhedlaeth nesa' yn un o'i blaenoriaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lesley Griffiths yn hyderus y bydd yna gyfleoedd i bobl ifanc yn y dyfodol o fewn y maes amaeth

"Bydd y ddau gynllun yn gweithredu ar y cyd a chymorth ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ar gyfer newydd ddyfodiaid i amaeth fel Cyswllt Ffermio a'r Grant Busnes i Ffermydd."

"Tra bod sawl her o flaen y diwydiant amaeth yng Nghymru, dwi'n parhau'n hyderus y bydd 'na gyfleoedd i ddatblygu diwydiant proffidiol a gwydn fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol."

Mae'r arian yn dod yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd ceisiadau ar gyfer y grantiau'n agor ym mis Ebrill ac yn cael eu cynnig i "unigolion sy'n cyflawni ar lefel uchel ac yn edrych i ddechrau busnes newydd neu ddatblygu un sy'n bodoli'n barod."

Bydd angen iddyn nhw brofi bod ganddyn nhw'r gallu i arwain ac ysbrydoli newid cadarnhaol o fewn y diwydiant yn ehangach.

Disgrifiad,

Mae Glyn Roberts yn gobeithio bydd y cynllun grant yn "lliniaru" ar y biwrocratiaeth sy'n atal pobl ifanc rhag ffermio

Yn y cyfamser, bydd y Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaeth yn cynnig cyfleoedd i ffermwyr ifanc fynegi eu barn yn uniongyrchol i weinidogion, uwch swyddogion a chyrff eraill.

Bydd disgwyl i aelodau weithio gyda mentor, yn y gobaith o ddatblygu arweinwyr y dyfodol i'r sector amaeth.

Croesawu'r newidiadau

Daeth croeso brwd i'r cyhoeddiad gan Glyn Roberts, Llywydd UAC: "Mae angen pobl ifanc arnom ni - nhw sy'n dod ag arloesedd, syniadau newydd ac ynni i'r diwydiant.

"Ac yng nghyd destun Brexit a'r newidiadau sydd i ddod - y genhedlaeth newydd fydd yn fwy parod i newid ac edrych am y cyfleoedd."

Cytuno mae Dafydd Jones, Is Gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, gan ychwanegu bod "beth bynnag ddaw yn y dyfodol yn debygol o'n heffeithio ni fwy na neb felly mae ond yn gywir ein bod ni'n cael dweud ein dweud."