Treth: Barn cynghorwyr Cyngor Penfro wedi hollti

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Penfro

Mae un o bwyllgorau Cyngor Sir Penfro yn awgrymu y dylid codi Treth y Cyngor o 8% yn hytrach na'r 12.5% sy'n yn cael ei ffafrio gan gabinet y sir.

Ond dim ond dau o aelodau'r pwyllgor craffu wnaeth bleidleisio ar y mater dydd Mawrth, gyda'r gweddill o'r farn nad eu lle nhw oedd gwneud argymhellion i'r cabinet.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd Bob Kilminster, aelod cabinet y cyngor dros gyllid, fod angen codiad o 12.5% er mwyn osgoi toriadau a diswyddiadau.

Dywedodd byddai codiad o 12.5% yn golygu na fyddai'r sir mewn dyled o ran gwariant cyllideb.

Rhybuddiodd y byddai codiad o 8% yn golygu dyledion o £2.1m a diswyddiadau, tra byddai codiad o 5% yn golygu bwlch o £3.5m a diswyddo 100 o staff y cyngor.

Mae'r cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £18.6m.

Ffynhonnell y llun, PeopleImages/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cynghorydd Kilminster y byddai codi treth y cyngor o lai na 12.5% yn golygu diswyddaidau.

Dywedodd y cynghorydd Kilminster: "Nid wyf eisiau codi treth o 12.5% , mae'n beth anodd i wneud yn wleidyddol - ond gallaf ond dweud fod yn rhaid i ni newid agwedd....mae'n rhaid bod yn onest, yn onest lle rydym o ran ein sefyllfa ariannol. Mae'n rhaid wynebu realiti."

Roedd y cynghorydd Brian Hall o'r grŵp annibynnol yn dweud nad oedd o wedi cwrdd ag unrhyw un o'i etholwr yn Noc Penfro fyddai'n cefnogi cynnydd o 12.5%.

"Byddaf yn fodlon cefnogi cynnydd sylweddol, ond dim ond ar yr amod y byddai addewid na fyddai cynnydd yn ystod y pedair blynedd ganlynol yn ddim mwy na 5%. "

'Amddiffyn addysg'

Dywedodd y cynghorydd Michael Williams o Blaid Cymru y bod yn rhaid iddynt ddweud wrth etholwyr am y dewisiadau anodd, a bod hi'n bwysicach amddiffyn gwasanaethau fel addysg rhag toriadau.

"Mae'n rhaid codi ein pennau wrth ben pethau fel cwynion am oleuadau ffyrdd a thyllau yn y ffyrdd, a chanolbwyntio ar addysg ein plant a phlant ein plant, mae'n rhaid cael y dewrder i ddweud hynny, rhywbeth nad ydym wedi ei wneud ers 19 o flynyddoedd."

Clywodd y pwyllgor fod treth y cyngor ar gyfartaledd yn 30% yn is yn Sir Benfro na gweddill siroedd Cymru.

Byddai'r codiad mwyaf yn golygu y bydd bil blynyddol am eiddo Band D yn codi o £883.15 i £993.54.

Fe fydd cabinet yn cwrdd i drafod y mater ym mis Chwefror, gyda'r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn ym mis Mawrth.