Carwyn Jones: 'Oedi a threth ar fai am gynnydd cost M4'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beio oedi, chwyddiant a Llywodraeth y DU am gynnydd yng nghost ffordd osgoi'r M4.

Clywodd pwyllgor Cynulliad yr wythnos diwethaf bod disgwyl i'r ffordd gostio dros £1.4bn ar ôl TAW.

Daw wedi cyhoeddiad fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru am ymrwymiad i wario £135m ychwanegol i wella dociau Casnewydd, gan wthio costau'r cynllun i fyny 10% i £1.3bn.

Yn 2015, dywedodd Mr Jones na fyddai cost y ffordd "unman yn agos" at £1bn.

Yn sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones bod y ffigwr wedi cynyddu oherwydd bod "mwy o oedi na'r disgwyl".

"Ond rydyn ni'n bwriadu sicrhau ein bod yn delio gyda'r broblem o dagfeydd ar yr M4," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies: Galw am bris uchafswm

Cafodd ei holi gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ofynnodd am roi uchafswm arian all gael ei wario ar gwblhau'r cynllun.

Ymatebodd Mr Jones: "Yn anffodus mae chwyddiant yn gwneud gwahaniaeth i'r ffigyrau ac yn ail mae Llywodraeth y DU yn codi tal TAW.

"Dyma her iddo, beth am fynd yn ôl i'w blaid a dweud 'peidiwch codi TAW ar y cynllun', fyddai'n arbed cannoedd o filiynau o bunnau?"

Dywedodd Mr Davies: "Heb TAW, a dyma geiriau eich gwas sifil yn y pwyllgor, mae cost y cynllun rhwng £1.3bn ac £1.4bn.

"Dim ond dwy flynedd yn ôl, roeddech chi'n ceisio argyhoeddi pobl y byddai'r cynllun yn costio £800m."

Mae'r cynllun yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd.