Ffordd liniaru'r M4 yn 'ymosodiad ar natur'

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae mudiad amgylcheddol wedi dweud wrth ymchwiliad cyhoeddus ddydd Mercher y byddai ffordd liniaru'r M4 yn ardal Casnewydd yn "ymosodiad uniongyrchol ar natur".

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent y byddai'r cynllun yn "rhwygo cydlyniad hanfodol ardal Lefelau Gwent".

Mae'r ardal yn cynnwys wyth safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol, ac mae wedi'i dynodi'n warchodfa natur cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod lleddfu'r traffig a'r buddion economaidd yn drech na'r effaith amgylcheddol.

'Datblygiad cynaladwy'

Ond gwrthod hynny mae'r ymddiriedolaeth.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan wrth y cyfarfod yng Nghasnewydd bod "adeiladu traffordd er mwyn osgoi traffordd yn debyg i lacio'ch gwregys er mwyn mynd i'r afael â gordewdra."

"Rydym yn gobeithio y bydd argymhelliad i beidio a bwrw mlaen â'r cynllun yn anfon neges glir fod Cymru o blaid datblygiad cynaladwy, nid datblygiad parhaus."

Mae'r ymddiriedolaeth yn dadlau fod gwastadeddau Gwent yn ymdebygu i goedwig trofannol yr Amazon, ac y dylen nhw gael eu gwarchod.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru am adeiladu traffordd chwe lôn gwerth £1.1bn i'r de o Gasnewydd.

Bydd y darn newydd 14 milltir yn rhedeg o gyffordd 23A (Magwyr) i gyffordd 29 (Trecastell).

Mae 335 o wrthwynebiadau ffurfiol wedi eu cyflwyno, o'i gymharu â 192 o lythyrau yn ei gefnogi.

Dehongliad

Wrth ymateb i'r gwrthwynebiadau, mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn derbyn - yn ystod y cyfnod adeiladu - y bydd "effaith negyddol mawr neu fawr iawn ar gymeriad tirlun y Lefelau".

Ond ychwanegodd: "Rhaid cymharu'r effaith yn erbyn y buddion cymdeithasol, economaidd ac eraill - buddion sylweddol - fyddai'n dod i Gasnewydd, ardal ehangach Caerdydd a Chymru yn ei chyfanrwydd."

Ond mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi amau'r dadansoddiad yna.

Dywedodd Sophie Howe y gallai gweinidogion fod yn "gosod cynsail peryglus" yn y modd y maen nhw wedi dehongli Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae un Aelod Cynulliad Llafur, Lee Waters, wedi dweud y gallai unrhyw benderfyniad gan y llywodraeth gael ei herio yn y llysoedd.