'Gobeithiol' o elw i Faes Awyr Caerdydd yn 2018

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr caerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Mae rheolwyr Maes Awyr Caerdydd yn dweud eu bod yn obeithiol o wneud elw yn 2018, ar sail perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fu cynnydd o 9% yn nifer y teithwyr aeth drwy'r derfynfa yn 2017, gyda 1,468 miliwn o bobl yn defnyddio'r maes awyr.

Mae hynny, medd rheolwyr, yn dwf o bron i 50% ers i'r maes awyr ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr yn 2013 oherwydd trafferthion ariannol.

Pwysigrwydd elw

Gobaith y rheolwyr yw na fydd y maes awyr wedi gwneud colled yn 2017, a hynny am y tro cyntaf ers 2012.

Maen nhw'n dweud bod sicrhau elw yn bwysig am y byddai'n ei gwneud hi'n fwy tebygol i gwmnïau preifat fuddsoddi ynddo.

Mae'r rheolwyr a Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn angenrheidiol er mwyn gwella'r adnoddau, sy'n cynnwys cynlluniau i adeiladu terfynfa newydd.

Fe fyddai sicrhau elw hefyd yn golygu y gall y maes awyr ad-dalu benthyciadau masnachol gwerth £23m gan Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Qatar Airways
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaeth dyddiol i Doha yn dechrau o'r maes awyr ym mis Mai

Dywedodd Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd, Roger Lewis, y bydd 2018 yn "flwyddyn drawsffurfiol i Faes Awyr Caerdydd".

"Byddwn yn cyflawni twf dau ddigid ac yn cyfoethogi profiad y teithiwr," meddai.

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU yn bwriadu dechrau cynnal adolygiad o'r Toll Teithwyr Awyr maes o law, ond galwodd eto ar i'r doll ar gyfer teithiau hir i gael eu datganoli i Gymru.