Achub cwpwl a phlentyn pump oed yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid achub cwpwl a phlentyn pump oed yn Eryri brynhawn Gwener am nad oedd ganddynt y "cyfarpar addas" ar gyfer eu taith.
Aeth y teulu ar goll mewn tywyllwch a thywydd oer iawn ar fynydd Y Garn yn Nyffryn Ogwen nos Wener.
Cafodd hofrennydd gwasanaeth y glannau ei alw a llwyddwyd i ddod o hyd i'r teulu drwy ddefnyddio 'ap' arbennig ar ffôn glyfar.
'Ap' Sarloc wedi bod o gymorth
Yn ôl y tîm achub nid oedd gan y teulu y "cyfarpar angenrheidiol" ar gyfer taith o'r fath.
Cafodd yr 'ap' Sarloc ei ddatblygu chwe mlynedd yn ôl gan Russ Hore sy'n aelod o'r tîm achub mynydd ac mae adroddiadau yn dweud ei fod wedi achub nifer o fywydau.
Yn aml pan mae rhywun ar goll ar y mynydd mae 'na anogaeth gan y tîm achub i lawrlwytho'r 'ap' ac y mae hynny'n galluogi y criw achub i gyrraedd pobl yn gynt.