Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-2 Tranmere

  • Cyhoeddwyd
CPD WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Tranmere.

Roedd hi'n hanner cyntaf cyffrous a bywiog iawn ar y Cae Ras, gyda'r ymwelwyr yn mynd ar y blaen gyntaf a hynny wrth i Ritchie Sutton sgorio ar ôl 10 munud.

Ond daeth ateb perffaith gan Wrecsam wrth i Scott Quigley gael gafael ar y bêl yn y cwrt cosbi ac yna ei hergydio i wneud y sgôr yn gyfartal eto.

O fewn pewdar munud rhoddodd Chris Holroyd Wrecsam ar y blaen gyda chic o'r smotyn wedi i Shaun Pearson gael ei dynnu i lawr yn y cwrt cosbi.

Felly y bu hi wedyn tan i Andy Cook o Tranmere unioni'r sgôr ym munud cyntaf yr amser a ychwanegwyd at yr hanner cyntaf.

Ni chafwyd rhagor o goliau yn yr ail hanner, a hynny o flaen torf o 8,500 aeth i wylio.