Josh Adams i ennill ei gap cyntaf yn erbyn Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Bydd asgellwr Caerwrangon, Josh Adams yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Yr Alban yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'r maswr Rhys Patchell yn un o 10 chwaraewr y Scarlets fydd yn dechrau i Gymru yn Stadiwm Principality.
Cory Hill o'r Dreigiau sy'n ymuno â'r capten Alun Wyn Jones yn yr ail-reng.
Mae Josh Navidi yn dechrau fel rhif saith ar ôl creu argraff yng Nghyfres yr Hydref, gyda Ross Moriarty yn wythwr.
Roedd Adams yn un o ddau chwaraewr newydd yn y garfan, ond dyw'r llall - James Davies - ddim yn rhan o'r garfan i herio'r Alban.
Mae 10 chwaraewr blaenllaw wedi'u hanafu, gyda Rhys Webb, Jonathan Davies, Dan Lydiate a Sam Warburton am fethu'r holl bencampwriaeth.
Mae disgwyl i Jake Ball hefyd golli pob gêm, mae Dan Biggar allan am dair gêm ac mae Rhys Priestland a Taulupe Faletau am golli o leiaf y ddwy gêm gyntaf.
Bydd Liam Williams a George North hefyd yn colli'r gêm yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn gydag anafiadau.
Fe wnaeth North ddioddef anaf i'w benglin ym mis Hydref, a dyw ond wedi ymddangos ddwywaith fel eilydd i Northampton ers hynny.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Josh Adams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (c), Aaron Shingler, Josh Navidi, Ross Moriarty
Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Aled Davies, Gareth Anscombe, Owen Watkin.
Tîm Yr Alban: Stuart Hogg; Tommy Seymour, Chris Harris, Huw Jones, Byron McGuigan; Finn Russell, Ali Price; Gordon Reid, Stuart McInally, Jon Welsh, Ben Toolis, Jonny Gray, John Barclay (c), Hamish Watson, Cornell du Preez.
Eilyddion: Scott Lawson, Jamie Bhatti, Murray McCallum, Grant Gilchrist, Ryan Wilson, Greig Laidlaw, Pete Horne, Sean Maitland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2018