Parthau Menter yn creu bron i 3,000 o swyddi ers 2012
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 3,000 o swyddi wedi eu creu ers sefydlu'r Parthau Menter, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Cafodd y parthau eu sefydlu yn 2012 gyda'r bwriad o annog cwmnïau newydd i osod gwreiddiau yno.
Ond gyda £221m wedi ei fuddsoddi, mae'r Ceidwadwyr yn cwestiynu'r buddsoddiad, gan ddisgrifio'r parthau fel "y gwastraff arian cyhoeddus mwyaf ers datganoli".
Gwrthod y feirniadaeth mae'r llywodraeth, sy'n mynnu fod y parthau'n parhau i ddenu buddsoddiad preifat, a'u bod wedi cefnogi dros 10,700 o swyddi ers 2012.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mi gafodd hanner y cyfanswm, sef £120m ei wario ar ddatblygu ffyrdd a seilwaith.
Cafodd rhai o'r parthau menter eu sefydlu yn 2012 gan y gweinidog busnes ar y pryd, Edwina Hart.
Y bwriad oedd sicrhau bod Cymru'n agored i fusnes.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y parthau wedi costio cannoedd o filiynau o bunnau i'r trethdalwyr, ac mae'r Aelod Cynulliad Suzy Davies yn cwestiynu a yw'r cynlluniau wedi talu ffordd.
"Ydyn ni wedi cael gwerth am arian i bobl sy'n talu treth? Oes 'na swyddi cynaliadwy wedi eu creu ym mhob parth yng Nghymru?" gofynnodd.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario lot o arian ar hyn - bron i chwarter biliwn o bunnau a d'yn nhw ddim wedi creu'r swyddi roedden nhw wedi addo yn y lle cyntaf.
"Mae'n bwysig nawr bod pwyllgor y Cynulliad yn cael gofyn cwestiynau am hyn."
Mae'r safleoedd wedi eu lleoli yn Ynys Môn, Canol Caerdydd, Glyn Ebwy, Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, Glannau Dyfrdwy, Eryri, Port Talbot a Dyfrffordd y Ddau Gleddau - wyth ardal wahanol iawn eu natur.
Tra'n rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor economi ddydd Mercher, dywedodd cadeirydd Parth Menter Port Talbot y byddai'n hoffi gweld ei gyfnod wrth y llyw yn y parth yn parhau tan 2021.
Yn ôl Roger Maggs, mae angen parhau â'r gefnogaeth yn yr ardal gan fod "na berygl o hyd y gallai nifer sylweddol o swyddi gael eu colli" yng ngwaith dur Tata meddai.
Mi gafodd y parth ei sefydlu ddeunaw mis yn ôl mewn ymateb i benderfyniad Tata i werthu ei busnes, gan gynnwys Port Talbot, gwaith dur mwyaf y DU.
"Yr hyn da ni'n aros amdano ym Mhort Talbot yw gwyrth," meddai Mr Maggs.
Dywedodd cadeirydd parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ei fod hefyd wedi gwneud cais i ymestyn ei gyfnod wrth y llyw.
Yng Nglannau Dyfrdwy y cafodd y rhan fwyaf o'r swyddi eu creu - bron i 1,300 - a'r buddsoddiad yno dros £29 miliwn.
Gyda chwmnïau fel Airbus, Tata a Toyota wedi sefydlu yno mae cadeirydd y parth, David Jones yn dweud eu bod nhw wedi adeiladu ar fentergarwch yr ardal.
"Dwi'n credu bod ni wedi rhedeg y parth menter yn dda dros ryw bum mlynedd nawr. Ma' gyda ni aelodaeth ar y bwrdd sy'n cynrychioli llawer o wahanol fusnesau a 'dan ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud llwyddiant o'r peth," meddai.
"Ar yr un pryd rwy'n derbyn bod y parthau menter ar draws Cymru'n wahanol iawn i'w gilydd. Mae parth menter Glannau Dyfrdwy mewn ardal sydd wedi cael ei datblygu tipyn dros gyfnod go hir, felly oedd y man cychwyn yn wahanol falle i rai eraill."
Yn Eryri cafodd chwech o swyddi eu creu wedi buddsoddiad o dros £2.1miliwn, ac yng Nglyn Ebwy fe gafodd bron i £95miliwn ei wario a 176 o swyddi eu creu.
Mae cwmni adeiladu DU Construction wedi cael cymorth i sefydlu eu busnes ym mharth Ynys Môn.
Yn ôl Owain Samuel Owen o'r cwmni, fe dderbynion nhw grant gan Lywodraeth Cymru i ariannu eu swyddfeydd newydd yng Nghaergybi, ar ôl rhentu uned yn y Gaerwen.
Er gwaetha'r ffaith bod y cwmni'n talu cyfradd dreth is, dydy o ddim wedi gweld manteision ychwanegol: "Ar hyn o bryd, dwi'n ymwybodol bod y cwmni'n derbyn cymorth lle mae'r gyfradd dreth 'dan ni'n ei dalu ychydig yn is.
"Ond ar ôl adeiladu'r swyddfeydd newydd, dydy'r cwmni ddim wedi bod yn derbyn cymorth parod ar wahân i'r gyfradd dreth.
"'Dach chi'n gweld o dro i dro rhywbeth mewn papur newydd neu eitem ar deledu neu radio, ond tydw i ddim yn ymwybodol o neb sy'n mynd allan yn hybu'r peth ddigon fel bod cwmnïau fatha ni yn ymwybodol o beth sydd ar gael."
Wrth ymateb i bryderon am yr arian sydd wedi ei fuddsoddi, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n buddsoddiad ni yn y parthau menter yn ymwneud â thwf cynaliadwy, cefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn y tymor byr, canolig a hir a darparu catalydd i ddatblygiadau, nid yn unig yn y parthau eu hunain, ond yn yr ardaloedd cyfagos.
"Mae cyfanswm ein buddsoddiad yn y Parthau Menter yn cynnwys nawdd ar gyfer prosiectau isadeiledd ac adfywio mawr ar draws Cymru, fel y rhaglen i ddeuoli'r A465, ffordd gyswllt Llangefni, Ffordd Gyswllt Bae Caerdydd, deuoli'r A40 ac ymestyn rheilffordd Glyn Ebwy a'r orsaf newydd.
"Mae hyn yn ychwanegol i'r gefnogaeth uniongyrchol i fuddsoddiad busnes a datblygu sgiliau o fewn y parthau.
"Mae'r Parthau Menter yn parhau i ddenu buddsoddiad preifat, ac maen nhw wedi cefnogi dros 10,700 o swyddi ers 2012."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017