Gwrthdrawiad A55: Heddlu'n cyhoeddi enw dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r A55 i'r gorllewin ynghau am gyfnod wedi'r gwrthdrawiad

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerbyd a pherson ar yr A55 yn Sir Fôn ddydd Llun.

Roedd Derwyn Alun Jones yn 39 oed ac yn dod o Niwbwrch.

Cafodd yr heddlu eu galw am 18:52 wedi'r gwrthdrawiad rhwng cyffordd 5 a 6, ger troad Llangefni.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101.