Y Gynghrair Genedlaethol: Gateshead 0-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Gêm ddi-sgor gafodd Wrecsam i ffwrdd yn Gateshead nos Fawrth.
Daeth cyfleoedd i'r ddau dîm, gyda Chris Holroyd yn dod agosaf i fynd â Wrecsam ar y blaen.
Cafodd ei gais am gic gosb ei gwrthod am ei fod yn camsefyll, a llwyddodd golwr Gateshead, James Montgomery i arbed ymgais dda ganddo.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn parhau'n drydydd yn y Gynghrair Genedlaethol.