Gweledigaeth gymunedol sy'n 'fodel' i weddill Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae digwyddiad cymunedol i geisio paratoi at ddyfodol cynaliadwy wedi ei drefnu ar gyfer rhanbarth o Wynedd.
Fe fydd y digwyddiad ym Mlaenau Ffestiniog yn edrych ar sicrhau gweledigaeth glir o ran cynllunio amgylcheddol, economaidd, diwylliannol ac addysgol o fewn yr ardal.
Dywedodd y trefnwyr, Cwmni Bro Ffestiniog, eu bod yn gobeithio cynnwys dylanwadau ac etifeddiaeth leol wrth lunio'r cynllun ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr y cwmni, Selwyn Williams, mae potensial i'r cynllun fod yn "fodel" at gyfer datblygu cymunedau ar draws Cymru.
Dywedodd Mr Williams bod 14 o fentrau cymunedol wedi dod at ei gilydd dan ymbarél Cwmni Bro Ffestiniog.
Mae llawer o waith aelodau'r cwmni i ddatblygu'r economi a'r gymdeithas leol wedi adeiladu ar yr hen draddodiad diwylliannol o fentergarwch cymunedol.
Yn ystod y digwyddiad, bydd cyflwyniadau'n amlygu gwaith y gwahanol fentrau gan gynnwys Cwmni Seren, CellB, Y Dref Werdd, Ysgol Y Moelwyn, Antur Stiniog, Barnados, GISDA, Trawsnewid, Cyfeillion Croesor, Pengwern Cymunedol ac Opra Cymru.
Potensial
Mae ffilm fer, gyda chyfraniadau gan yr actor byd-enwog Michael Sheen wedi ei chynhyrchu ar gyfer y digwyddiad, sy'n dangos y weledigaeth ar gyfer Bro Ffestiniog.
Dywedodd Mr Williams: "Mae hwn yn ddatblygiad unigryw ac arloesol ac yn fodel o ddatblygu cymunedol sydd â photensial ar gyfer cymunedau ar hyd a lled Cymru.
"Fe fyddwn ni'n dangos be sydd wedi'i gyflawni yma Mro Ffestiniog a photensial y model yma o ddatblygiad cymunedol.
"Fe fyddwn ni hefyd yn pwyso ar y Llywodraeth yng Nghymru i ddatblygu polisïau i gefnogi'r model yma o ddatblygu cymunedol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2015
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014