Gatland: 'Swydd prif hyfforddwr Cymru'n anodd i Gymro'

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Warren Gatland bod gan gefnogwyr deyrngarwch mawr tuag at eu clybiau

Mae Warren Gatland wedi dweud y bydd hi'n anodd i Gymro ei ddilyn fel prif hyfforddwr y tîm rygbi cenedlaethol.

Daw'r gêm yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wrth i'r gŵr o Seland Newydd ddathlu degawd ers ei gêm gyntaf yn y swydd.

Bydd ei gytundeb yn dod i ben wedi Cwpan y Byd 2019 yn Japan.

"Rwy'n meddwl ei bod yn anodd i Gymro hyfforddi Cymru," meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru.

"Mae hi mor rhanedig yma, ac mae pawb yn cael eu gweld fel rhagfarnllyd.

"Rydw i wastad yn dweud wrth bobl mai mater o farn yw penderfynu pwy sydd yn y garfan ac yn y tîm.

"Rwy'n meddwl weithiau nad ydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffordd mae pethau'n gweithio. Dyna'r penderfyniad ac efallai nad ydw i'n cytuno, ond rwy'n ei barchu."

Disgrifiad,

Gareth Rhys Owen yn edrych ymlaen at ddechrau Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2018

Dywedodd Gatland ei fod yn credu bod y Cymry yr un mor frwdfrydig a gwybodus am rygbi ac y maen nhw yn Seland Newydd.

Ond mae'n dweud bod y pellter bychan rhwng pedwar rhanbarth Cymru yn golygu bod gan gefnogwyr deyrngarwch mawr tuag at eu clybiau eu hunain.

"Mae pobl Cymru'n frwdfrydig iawn am fod yn Gymry a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni, ond maen nhw'n gallu bod yn feirniadol iawn o'u hunain a'i gilydd hefyd," meddai.

A hithau'n 10 mlynedd ers i Gatland ddechrau yn y swydd, dywedodd mai ei gêm gyntaf - pan lwyddodd Cymru i drechu Lloegr yn Twickenham - yw ei atgof mwyaf melys.

Ond ar ben arall y sbectrwm, dywedodd mai'r siom fwyaf oedd colli i Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2011 pan gafodd y capten Sam Warburton gerdyn coch.