Cerflun i goffáu cysylltiad ysbyty â dur Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Sarah TombsFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Disgrifiad o’r llun,

Gweithiodd yr artist Sarah Tombs am 18 mis i greu'r cerflun

Bydd cerflun yn cael ei ddadorchuddio yn uned losgiadau Ysbyty Treforys er mwyn coffáu cysylltiad yr uned â gwaith dur Port Talbot.

Dyma ddigwyddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed.

Mae'r uned losgiadau wedi gweithio'n agos gyda gwaith dur Port Talbot gydol yr amser.

Cafodd y cerflun ei greu gan artist o orllewin Cymru, Sarah Tombs, ac mae'n darlunio chwedl Merch Llyn y Fan Fach.

Yn ôl yr hanes roedd Merch Llyn y Fan Fach yn fam i Feddygon Myddfai a ddefnyddiai bwerau hudol i wella cleifion.

'Newid gydag amser'

Mae'r cerflun, sydd wedi'i wneud o ddur Tata, yn symbol o "adfywiad ac iachâd".

Treuliodd Ms Tombs 18 mis yn creu'r cerflun, sydd wedi'i adael i rydu yn fwriadol.

Dywedodd Ms Tombs: "Mae'n fwy meddal a llai diwydiannol na rhywbeth galfanedig neu wedi ei baentio. Bydd yn newid gydag amser a dwi'n hoffi hynny."

Yn ogystal â'r cerflun hwn bydd lamp glöwr, sydd wedi'i chynllunio'n bwrpasol, yn nodi cysylltiad diwydiant de Cymru â gofal iechyd.

Y lamp arbennig hon fydd symbol y bwrdd iechyd wrth ddathlu'r pen-blwydd gydol y flwyddyn.