Unedau brys: Cymhariaeth annilys gan Theresa May

  • Cyhoeddwyd
jones/may

Mae rheoleiddwyr ystadegau'r DU wedi cefnogi beirniadaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones am ddefnydd Prif Weinidog y DU o ddata ar gyfer unedau damweiniau ac achosion brys.

Dywedodd Mr Jones fod y gymhariaeth rhwng rheini sy'n aros am 12 awr neu fwy yn yr unedau brys yng Nghymru a Lloegr yn "annheg", gan fod y ffigurau yn cael eu mesur mewn ffyrdd gwahanol.

Mae cadeirydd Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, Syr David Norgrove, wedi cytuno nad oedd y gymhariaeth "yn un ddilys".

Fe wnaeth Mrs May y sylwadau yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog yn San Steffan yn gynharach ym mis Ionawr.

Ffigyrau gwahanol

Dywedodd Syr David: "Mae'r ffigwr a ddefnyddir ar gyfer Lloegr yn cyfeirio at yr amser aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys o'r penderfyniad i gyfeirio claf i'r ysbyty, i'r pwynt pan maen nhw'n cael eu derbyn i ofal adran arall o'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'r ffigwr a ddefnyddiwyd ar gyfer Cymru yn cynrychioli'r amser y mae cleifion yn aros, o'r pwynt pan maen nhw'n cyrraedd yr uned i'r pwynt pan maen nhw'n gadael yr adran yn gyfan gwbl."

Fe ddaeth y ddadl i'r amlwg pan gododd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, y mater gyda Phrif Weinidog y DU yn gynharach eleni.

Dywedodd Mrs May bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 497 o bobl wedi aros mwy na 12 awr mewn unedau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai yn Lloegr o gymharu â 3,741 yng Nghymru.

Ond fe wnaeth hynny ysgogi Carwyn Jones i ysgrifennu llythyr ati, a ddywedodd nad oedd y ffigyrau ar gyfer Lloegr "yn cynnwys yr amser oedd y claf wedi ei dreulio yn yr uned frys, cyn i'r penderfyniad i'w derbyn i'r ysbyty gael ei wneud".

Dim trafodaeth deg

Dywedodd: "Nid yw camddefnyddio dewisol o ystadegau fel hyn yn caniatáu trafodaeth deg ar y GIG."

Yn ei ymateb, dywedodd Syr David: "Rydych yn iawn i ddweud nad yw'r gymhariaeth yn ddilys."

"Mae cymariaethau amser aros rhwng gwledydd y DU yn anodd, am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys gwahaniaethau mewn ffyrdd o gasglu data a strwythur y gwasanaeth iechyd.

Fodd bynnag, mae wedi "annog" sefydliadau i wneud data yn fwy hygyrch er mwyn gallu cymharu, ac felly yn croesawu ymdrechion i'r perwyl hwnnw.

"Mae'n amlwg ei bod yn bwysig gallu cymharu perfformiad y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU, yn enwedig i ddysgu gwersi o wahanol ffyrdd o wneud pethau," meddai.