Tywydd garw'n cau ysgolion yn y gogledd ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
rhewFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd melyn am dywydd garw i gyd-fynd â'r un a gyhoeddwyd ddydd Llun sy'n dal mewn grym tan brynhawn Mawrth.

Mae'r ail rybudd yn dweud y bydd cawodydd o eirlaw, eira a chenllysg - rhai yn drwm - yn taro ardaloedd gorllewinol Cymru yn ystod y dydd.

Bydd yr ail rybudd mewn grym o 05:00 fore Mawrth tan 10:00 fore Mercher.

Fe ddywed y rhybudd fod disgwyl amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y dydd.

Hefyd bydd rhew yn ffurfio ar nifer o ffyrdd, llwybrau beicio a phafinau sydd heb eu trin, gyda mwy o risg o ddamweiniau.

Dywedodd y cyflwynydd tywydd Derek Brockway: "Fe fydd faint o eira sy'n disgyn yn amrywio, ond fe allai rhwng 1-3cm ddisgyn mewn mannau gyda hyd at 5cm ar dir uchel dros 200m."

Ysgolion ar gau

Erbyn 09:20 fore Mawrth roedd 19 ysgol wedi cyhoeddi na fydden nhw'n agor - wyth ar Ynys Môn, 10 yng Ngwynedd ac un yng Nghonwy:

Ynys Môn

  • Ysgol Gynradd y Graig, Llangefni;

  • Ysgol Gyfun Llangefni;

  • Ysgol Gynradd Bodorgan;

  • Ysgol Gynradd Niwbwrch;

  • Ysgol Gynradd Llangaffo;

  • Ysgol Gynradd Dwyran;

  • Ysgol Corn Hir, Llangefni;

  • Ysgol Esceifiog, Gaerwen.

Gwynedd

  • Ysgol Gyfun Botwnnog;

  • Ysgol Pont y Gof, Botwnnog;

  • Ysgol Gynradd Sarn Bach;

  • Ysgol Gynradd Edern;

  • Ysgol Yr Eifl, Trefor;

  • Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth;

  • Ysgol Crud y Werin, Aberdaron;

  • Ysgol Gynradd Rhosgadfan;

  • Ysgol Pendalar, Caernarfon;

  • Ysgol Gynradd Waunfawr.

Conwy

  • Ysgol Gynradd Betws-yn-Rhos.