Gleision yn ystyried symud o Barc yr Arfau

  • Cyhoeddwyd
Parc yr ArfauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc yr Arfau yn cyffwrdd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Mae tîm rygbi'r Gleision yn ystyried symud o'u cartref ym Mharc yr Arfau.

Methiant y rhanbarth i ddod i delerau ynglŷn â'r brydles sydd yn dod i ben yn 2022 gyda pherchnogion y tir, Clwb Athletau Caerdydd (CAC) sydd y tu ôl i'r penderfyniad.

Mewn datganiad mae'r clwb yn dweud: "Mae'r bwrdd wedi cytuno fod rhaid diogelu dyfodol y Gleision drwy edrych ar opsiynau y tu hwnt i Barc yr Arfau.

"Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael."

Mae'r Gleision wedi argymell cynlluniau i wneud gwerth miliynau o bunnoedd o welliannau i'r stadiwm, ond fe gafodd y cynlluniau eu gwrthod gan CAC yn 2017.

'Sicrhau dyfodol'

Ym mis Hydref dywedodd CAC ei bod nhw'n fodlon trafod les newydd er mwyn "sicrhau dyfodol" rygbi ar y maes.

Mae Caerdydd RFC, sy'n chwarae yn ail haen Uwch Gynghrair Cymru hefyd yn defnyddio Parc yr Arfau ar gyfer gemau cartref.

Fe wnaeth y Gleision symud i chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009.

Tri thymor yn ddiweddarach - ar ddiwedd tymor 2011-12 - fe benderfynodd y Gleision symud yn ôl i Barc yr Arfau.

Mae disgwyl i CAC gynnal eu cyfarfod blynyddol ar 7 Chwefror.