Ymgynghori ar ganolfan chwaraeon newydd Prifysgol Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Bydd myfyrwyr chwaraeon yn Wrecsam yn cael cyfle i elwa o fuddsoddiad yng nghyfleusterau hyfforddi newydd gwerth £4m.
Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru arwyddo prydles 99 mlynedd gyda Phrifysgol Glyndŵr i drawsnewid y ganolfan yng Ngresffordd i fod yn Ganolfan Ddatblygu Genedlaethol.
Mae ymgynghoriad 28 diwrnod bellach ar y gweill, ac mae cynigion ar gyfer y safle ar gael i'w gweld yn nerbynfa campws Plas Coch.
Fe fydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Gyngor Wrecsam yn y Gwanwyn.
Mae'r rhain yn cynnwys gwella'r caeau chwarae, gwella'r ddarpariaeth well ar gyfer y timau pêl-droed cymunedol a lleol, yn ogystal ag adnewyddu'r cyfleusterau oddi ar y cae.
'Cyfle i ffynnu'
Dywedodd Is-Ganghellor y brifysgol, yr Athro Maria Hinfelaar: "Mae'r buddsoddiad ym Mharc y Glowyr yn newyddion gwych i fyfyrwyr ar ein cyrsiau hyfforddi pêl-droed a chwaraeon, a fydd cyfle i fyfyrwyr ffynnu yn yr ardaloedd newydd hyn.
"Mae cynlluniau CBDC yn drawiadol iawn, ac yn cefnogi rhaglen ailddatblygu Campws y Brifysgol 2025, yn ogystal â bodloni anghenion y gymuned.
"Mae hefyd yn hwb mawr i'r byd pêl-droed yn y rhanbarth hwn ac i CBDC yng Ngogledd Cymru, felly rydym yn cefnogi eu gweledigaeth yn llawn."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed: "Mae'r datblygiad arfaethedig yn dangos ymrwymiad y Gymdeithas i ogledd Cymru, ac mae'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal."