Iestyn Tyne a'r llun sy' wedi ysbrydoli ei waith

Richard a Catrin Griffith yn paratoi i ymadael â'u fferm Carneddi yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae ffotograff Geoff Charles o Richard a Catrin Griffith yn paratoi i ymadael â'u fferm Carneddi yn Eryri yn un o ddelweddau mwyaf eiconig Cymru.
Wyth deg mlynedd wedi i'r llun gael ei gyhoeddi ar glawr blaen Y Cymro, mae'r bardd o Ben Llŷn, Iestyn Tyne, yn talu teyrnged i'r llun ac i'r teulu gyda'i albym cysyniadol Carneddi.
Mae Iestyn hefyd yn gwneud taith gerdded yn 2026 gyda sgyrsiau, cerddi a chaneuon o amgylch rhai o leoliadau mwyaf arwyddocaol Richard (Carneddog) a Catrin Griffith.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw mae'r bardd yn esbonio yr ysbrydoliaeth tu ôl i'w waith.
Beth yw'r syniad tu ôl yr albwm Carneddi – ac hefyd y ffaith dy fod yn teithio i nifer o'r lleoliadau?
Albwm cysyniadol ydi Carneddi, yn ymateb i ffotograff eiconig Geoff Charles o Richard (Carneddog) a Catrin Griffith a dynnwyd ym Medi 1945, pan roedd yn rhaid i'r ddau ymadael â'u fferm ar lethrau Moel y Dyniewyd yn Eryri yn eu henaint, gan symud i fyw at eu mab hynaf yn Hinckley, Lloegr, yn dilyn marwolaeth eu mab arall, Hywel Wyn.
Ar gyfer y daith yma mi wnes i ddewis cyfres o leoliadau eitha' arwyddocaol neu berthnasol i mi neu i'r hanes. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae archif enfawr ffotograffau Geoff Charles; Yr Ysgwrn – cartref bardd arall o amaethwr ac un o gyfoeswyr Carneddog a Catrin (er na wn i a gyfathrebodd neu a gyfarfu'r ddau â'i gilydd – mae siawns dda, yn sicr); ac yna perfformiad lleol i mi fy hun yn y Clwb Iotio yng Nghaernarfon.
Yn 2026 wedyn, mi fydda i'n perfformio'r gwaith yn nhirwedd yr albym, ar droed rhwng ffermdy Carneddi a Llyn Dinas, ac yna yng Nghapel Peniel yn Nantmor gyda'r nos, capel Carneddog, Catrin a'r teulu. Mae'n braf meddwl mai yn y fan honno y bydda i'n dod â thaith Carneddi i ben – am y tro, o leiaf.

Iestyn Tyne
Sut mae'r llun gan Geoff Charles wedi dy ysbrydoli di a pham fod hi mor eiconig i ni Gymry?
Yn wrthrychol, mae cyfansoddiad y llun fel darn o gelfyddyd yn rhagorol. Mae pobl na wyddan nhw ddim oll am Carneddog na'r Gymraeg na dim yn medru synhwyro'r trallod, a gweld fel y mae haenau garw'r dirwedd yn adleisio'r garwedd yn wynebau'r ddau gymeriad.
Mi fydda i weithiau yn cwestiynu a ddylid bod wedi tynnu'r ffotograff o gwbl (ac yn enwedig rhai o'r lluniau eraill a dynnwyd ar y diwrnod hwnnw), oherwydd yr elfen yna o ymwthio ar yr hen bâr a'u dal yn eu galar mwyaf amrwd a bregus.
Ond beth bynnag am hynny, mi aeth John Roberts Williams a Geoff Charles yno ar y pnawn Sul hwnnw o Fedi ym 1945, ac mi argraffwyd y ddelwedd ar glawr blaen Y Cymro, dan y pennawd 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell' – dyfyniad o emyn Pantycelyn, wrth gwrs.
A dyna sut gydiodd y peth yn nychymyg y Cymry Cymraeg, rywsut: ar ben hanes trist yr unigolion yn y llun, a Carneddog yn adnabyddus drwy'r wlad fel hynafiaethwr, casglwr a gohebydd o werinwr; roedd cyfosodiad y llun a'r pennawd yn chwarae at bryderon dirfodol yn ymwneud â diflaniad ffordd o fyw, diwylliant, crefydd a'r iaith. Roedd hi'n fyd newydd, cyflafan yr Ail Ryfel Byd yn dod i ben, a neb yn siŵr iawn beth fyddai'n goroesi.
Roedd gen i ddiddordeb mynd yn ôl at yr hanes personol yna, a cheisio dychmygu rhywfaint ar leisiau'r rhai sydd yn y llun a'r rhai sydd yn y cysgodion o amgylch y ffrâm – pethau'r galon, sydd yn aml yn disgyn y tu hwnt i gwmpas y cofnod ffeithiol.
O ran gwneud hynny ar ffurf albym cysyniadol, roeddwn i wedi bod eisiau arbrofi hefo cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth ar record ers sbel. Yn Hydref 2019 wedyn, wrth dyrchu yn archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney ar gyfer sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru, mi ddes i ar draws hen alaw hyfryd o'r enw Marchnad Penmorfa. A dyna ddechrau meddwl am yr hen alawon yma a chymaint ohonyn nhw sydd wedi'u henwi mewn modd sy'n eu clymu wrth leoliadau daearyddol penodol iawn, gan roi potensial cysyniadol cryf iddyn nhw.
Gan fod Marchnad Penmorfa yn rhywle y byddai Carneddog a Hywel yn mynd – nid yn unig i fasnachu ond i hel straeon a newyddion difyr ar gyfer colofn Carneddog yn Yr Herald Cymraeg – roedd yr alaw honno yn ddechreubwynt i gychwyn meddwl am dynnu'r gerddoriaeth, y geiriau a'r hanes ynghyd.

Iestyn Tyne tu allan i gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn
Beth sy' wedi dy ysbrydoli di am y stori tu ôl i'r llun a pham fod hi'n bwysig i ti ddweud y stori yma?
Yn un peth, fel gyda'r gyfrol dwi newydd ei chyhoeddi ar Prosser Rhys, awydd i gymryd y cyfle i ddogfennu ac ymateb yn greadigol i fywydau pobl sydd ar fin diflannu o'r cof byw. Mae yna bobl dwi wedi siarad â nhw sydd â chof plant o Carneddog a'r Carneddi fel yr oedd, ac mae hynny'n tynhau rhyw fymryn ar yr edafedd sy'n clymu'r artist wrth ei wrthrych.
Mae effaith weledol y llun yn atyniadol ac yn ddychrynllyd yr un pryd, fel yr hanes ei hun – rhamant yn gymysg â dinistr. Mae 'na lawer o densiwn felly – yn ein hymateb ni i'r llun; rhwng gwirionedd pobl o gig a gwaed a'r stori bapur newydd; rhwng traddodiad cenedlaethau a'r perchnogion newydd, di-Gymraeg oedd yn symud i fewn; rhwng y gymuned agos a'r ymateb cenedlaethol, ac rhwng bywyd ac angau ei hun. Y mannau canol llwyd hynny sy'n ysbrydoli'r ymateb creadigol.
Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â'r llun, ond tydyn nhw ddim i gyd yn gwybod pwy oedd Carneddog a Catrin, na lle mae'r Carneddi, na pham y tynnwyd y llun. Mae hynny ynddo'i hun yn ddigon o reswm i ddweud y stori.
Beth sy'n arbennig am deithio i'r lleoliadau arwyddocaol yma ar gyfer taith gerdded Carneddi?
O gymryd golwg ehangach ar fy ngwaith dros y blynyddoedd diwethaf, mae cysylltiad pobl â'r dirwedd – sut maen nhw'n ei siapio ac yn cael eu siapio ganddi – yn thema gyson.
Diolch i dderbyn Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'u partneriaid rhwng 2023 a 2025, cefais gyfle o ddifri i ddistyllu rhai o fy syniadau am hyn, gan gychwyn adeiladu corff o waith fyddai'n dod at y syniadau hyn mewn amryw ffyrdd.
Roedd y syniad o olyniaeth yn bwysig iawn i'r archwiliadau hynny – yr hyn a fu, yr hyn sydd, a'r hyn a fydd. Ac rydan ni mewn cyfnod go dyngedfennol yn ein hanes ni o ran hynny mewn perthynas â thirwedd Cymru – pwy sy'n ei etifeddu, pwy sydd â hawl arno, ac at ba ddiben?
Felly mi fydd y daith gerdded yn gyfle i roi gwedd ychydig yn wahanol ar y gwaith – rhoi bywydau Carneddog a Catrin a'u cymuned yng nghyd-destun y dirwedd fyw, amrywiol hon ydi'r gobaith.
Oes neges yn dy waith newydd?
Un peth dwi'n teimlo, neu'n gobeithio, fod yr albym a'r sioe fyw yn ei wneud ydi rhoi cyfrwng i fynegiant o'r galar roedd Carneddog a Catrin yn ei deimlo, ond heb o reidrwydd allu ei fynegi yn llawn ac yn huawdl ar y pryd.
Y tu hwnt i hynny, falle nid neges cymaint â rhoi argraff o, neu seinwedd i amgylchiadau pobl wledig, dlawd, diwylliedig, ar adeg ac mewn lleoliad daearyddol penodol. Un dehongliad personol ydi hwn, ac nid darn o ymchwil diffiniadol – dwi'n gobeithio y bydd o'n codi teimladau ym mhobl sy'n gwneud iddyn nhw fod eisiau mynd ati i ddysgu mwy am Carneddog, Catrin a'u byd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019