Sinemâu newydd am fod 'yn hwb i'r gymuned' wedi cyfnod heriol

Neuadd y Dref Maesteg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd y Dref Maesteg bellach yn gartref i theatr fodern, sinema, atriwm gwydr, caffi, a llyfrgelloedd

  • Cyhoeddwyd

Dyw'r blynyddoedd diwethaf ddim wedi bod yn rhai caredig i sinemâu.

Maen nhw wedi wynebu heriau mawr wrth geisio denu cynulleidfaoedd yn sgil Covid, Brexit, streic actorion ac ysgrifenwyr ffilm yn yr Unol Daleithiau, a chostau byw.

Mae'n anodd cael darlun cyflawn o'r sefyllfa o ran niferoedd sy'n prynu tocynnau gan fod y ffigyrau o ran gwerthiant yng Nghymru wedi eu cynnwys y tu mewn i'r data ar gyfer y Deyrnas Unedig ag Iwerddon yn gyfan.

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd o ychydig dros 2% yn nifer y bobl wnaeth fynd i sinema yn 2024.

Mae'r arwyddion yn obeithiol ond mae'n debyg y bydd rhaid disgwyl tan o leiaf 2026 cyn y bydd y niferoedd yn dychwelyd i'r hyn oedden nhw cyn y pandemig.

Wrth ymateb i'r galw am weld ffilmiau mae nifer o sinemâu newydd yn agor mewn cymunedau ar draws Cymru lle mae'r pwyslais ar yr elfen leol a hefyd y "profiad" o ymweld â sinema.

Dwy enghraifft ddiweddar o ymdrech fawr i ail sefydlu'r sinema wrth galon y gymuned yw Neuadd y Dref Maesteg a Chanolfan y Celfyddydau Pontardawe.

Disgrifiad,

Sinemâu newydd am fod 'yn hwb i'r gymuned' wedi cyfnod heriol

Ym Mhontardawe mae sinema newydd sbon ar fin agor yn y ganolfan gelfyddydau.

Mae'r prosiect, sydd werth tua £2m, wedi derbyn grant sylweddol o £600,000 gan Gyngor y Celfyddydau, cyfraniad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Trawsnewid Trefi ac mae gweddill yr arian yn dod gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y cynghorydd lleol Nia Jenkins fod "pobl ishe mynd mas ar ôl Covid ac mae'r profiad ma' nhw yn cael mewn sinema fel hyn yn wahanol i be ma' nhw yn gweld yn y tŷ neu ar y ffôn.

"Fi yn credu bo' fe'n mynd i fod yn llwyddiannus iawn. Byddai'n dod 'ma, fi eisoes 'di gofyn os yw Downton Abbey yn dod!"

Ychwanegodd rheolwr y ganolfan, Meirion Gittins, fod yr adnoddau a'r cyfleusterau newydd yn cynnig cyfle i ddangos rhai o'r ffilmiau mawr a'r blockbusters diweddaraf.

"Ry' ni'n mynd i gynnig profiad arbennig i bobl sy'n dod 'ma," meddai.

"Mae gyda ni'r system sain ddiweddaraf, projector laser, a seddi cyfforddus tu hwnt - mae gan hwn y wow factor."

Olivia Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Nes i neud prentisiaeth fel technegydd sain a nawr fi 'di cael job fan hyn," meddai Olivia Thomas

Mae sinemâu yn dal i ddioddef sgil effeithiau gwahanol heriau dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae hyder y bydd y ganolfan fodern yma yn creu adloniant a swyddi i bobl yr ardal.

Mae Olivia Thomas, sy'n byw yn lleol, yn gweithio fel technegydd yn y ganolfan.

"Fe ges i fy magu mewn teulu theatrig, roedd tad-cu yn gweithio yn y theatr yn Aberdâr a mam-gu yn gantores.

"Felly nes i neud prentisiaeth fel technegydd sain a nawr fi di cael job fan hyn a fi yn byw yng Nghastell-nedd jyst lawr yr hewl," meddai.

Rebecca Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd ffilmiau Cymraeg yn cael eu dangos yn y sinema newydd, meddai Rebecca Phillips

Fe gafodd y sinema newydd groeso gan un o actorion enwocaf Cwm Tawe, Sian Phillips.

"Mae hwn yn wych. Rwy'n cofio dod i'r sinema ym Mhontardawe gyda fy nhad pan o'n i tua chwech oed ac roedd to sinc ar yr adeilad a'r glaw yn tywallt i lawr a braidd oeddech chi yn gallu clywed y ffilm oherwydd sŵn y glaw ar y to," meddai.

"Rwy'n cofio hefyd chwerthin mor uchel yn y ffilm gyntaf a chrio mor uchel yn yr ail nes bod y rheolwr wedi gofyn i fy nhad gadw fi yn dawel!"

Fe fydd mudiadau lleol fel Menter iaith Castell-nedd Port Talbot yn gwneud defnydd o'r sinema newydd, yn ôl Rebecca Phillips o'r fenter.

"Ni'n ffodus ma' gyda ni berthynas dda gyda staff y ganolfan eisoes, a chydweithio yn digwydd eisoes, ond bydd hwn yn atynnu pobl newydd mewn yn enwedig gan fod ffilmiau Cymraeg yn mynd i gael eu dangos yma fydd yn dangos fod y Gymraeg yn iaith fyw."

Neuadd y Dref Maesteg
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd sydd wedi ei osod ar wal Neuadd y Dref Maesteg

Mae trefnwyr y fenter newydd yng Nghwm Tawe yn cadw llygad gofalus ar yr hyn sy'n digwydd mewn sinemâu eraill yn lleol o ran cefnogaeth ac arlwy.

Y llynedd, yng Nghwm Llynfi agorodd drysau Neuadd y Dref Maesteg ar ei newydd wedd, ar ôl cynllun ailddatblygu pum mlynedd hynod uchelgeisiol gwerth bron i £10m, a gyflawnwyd gan y Cyngor a'i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Mae'r adeilad carreg drawiadol yn cynnwys sinema newydd sbon 74 sedd o'r enw 'Y Bocs Oren'.

Aled Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hwn yn hwb i'r gymuned a chanol y cwm," meddai Aled Williams

Mae Aled Williams, rheolwr marchnata'r ganolfan, yn disgrifio'r adeilad fel ail gartref iddo gan ei fod wedi actio, canu a chyfarwyddo yna ers pan oedd e yn chwech oed.

"Pan agorwyd y neuadd yn 1881 y pwrpas oedd creu canolfan i'r gymuned gyfan nid just i un garfan o bobl - ac mae hynny mor wir heddi ag erioed," meddai.

Ar ôl cael ei weddnewid mae gan y ganolfan theatr fodern, sinema 'Y Bocs Oren, atriwm gwydr, caffi, llyfrgell y dre a llyfrgell hanes a threftadaeth.

"Mae hwn yn hwb i'r gymuned a chanol y cwm gyda dros 30 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma mis yma yn unig," esboniodd.

Wrth weld y niferoedd sy'n mynychu'r sinema yn cynyddu mae sinemâu newydd mewn trefi fel Maesteg a Phontardawe yn ceisio creu cyfleusterau adloniant a diwylliant newydd, a hefyd sicrhau hwb i'r economi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig