Talu am glun newydd yn Lithuania 'er mwyn byw fy mywyd'

Sian Rees
Disgrifiad o’r llun,

"Doeddwn i ddim yn gallu mwynhau fy hun, ddim yn gallu cerdded yn bell nac eistedd yn hir," meddai Siân Rees cyn y driniaeth

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r rhestrau aros am driniaeth diweddaraf gael eu cyhoeddi fore Iau, mae menyw o Dŷ'n-y-groes ger Conwy yn dweud nad oedd dewis ganddi ond mynd i Lithuania yn gynharach eleni i gael clun newydd.

Dywedodd yr awdures, Siân Rees, fod y boen yr oedd hi'n ei deimlo yn ei chlun "wedi carlamu" yn 2024 ac wedi iddi weld arbenigwr yr esgyrn clywodd fod y rhestr aros yn ddwy flynedd a hanner ac nad oedd ei chlun hi, er gwaethaf ei phoen, yn ddigon drwg i'w drwsio.

"Daeth y trobwynt pan es i Eisteddfod Pontypridd a chael trafferth garw cerdded rownd y maes ac mi ddechreuais i feddwl bod hyn yn effeithio ar fy iechyd meddwl," meddai.

"Doeddwn i ddim yn gallu mwynhau fy hun, ddim yn gallu cerdded yn bell nac eistedd yn hir."

Yn yr Eisteddfod fe wnaeth gyfarfod â ffrind o Lanelli oedd newydd gael ysgwydd newydd mewn clinig yn Lithuania - profiad a wnaeth iddi ymchwilio ymhellach.

Siân Rees wedi iddi gael clun newydd yn Lithuania
Disgrifiad o’r llun,

Siân Rees wedi iddi gael clun newydd yn Lithuania

Wedi tipyn o waith cartref fe gafodd Siân Rees glun newydd mewn clinig yn Lithuania fis Ionawr a dywed bod ei thriniaeth o'r "safon uchaf" - dau ddiwrnod yn yr ysbyty ac yna chwe diwrnod mewn gwesty gan fynd mewn i'r clinig i gael sesiwn ffisiotherapi bob dydd.

"Dwi'n difaru dim. Pan ddudodd y llawfeddyg bo' fi ddim yn ddigon drwg i gael llawdriniaeth o'n i bach yn flin," ychwanegodd Ms Rees.

"Fi o'dd yn gwybod faint o boen oedd gen i a do'n i ddim isio'r boen.

"Dydw i ddim yn meindio bo' fi wedi gorfod talu. Mae'r ffaith bo' fi ar eu rhestr nhw yn rhoi bwlch i rywun arall i fynd ar y rhestr."

Dywed hefyd ei bod ar ddeall fod y gost o fynd yn breifat i Lithuania hanner yr hyn fyddai triniaeth o'r fath wedi ei gostio yng Nghymru a bod y pecyn a gafodd hi dramor yn cynnwys ffisiotherapi hefyd.

"Roedd y boen oedd gen i yn effeithio ar fy iechyd meddwl. O'n i awydd byw fy mywyd yn de!"

Disgrifiad,

Talu am glun newydd yn Lithuania 'er mwyn byw fy mywyd'

Yn y cyfamser, gyda pherfformiad y gwasanaeth iechyd, yn sicr, o fod yn bwnc llosg yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf mae'r gwrthbleidiau wedi cwestiynu newid diweddar yn y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyhoeddi ystadegau am restrau aros.

Fis diwethaf, am y tro cyntaf, cafodd ffigyrau "dros dro" eu datgelu sy'n dangos sefyllfa rhestrau aros fis yn gynharach na'r ffigyrau swyddogol.

Yn y Gwanwyn fe amlinellodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, gyfres o dargedau newydd i ostwng rhestrau aros.

Mynnodd ei fod yn "ffyddiog" y byddai'r rhain yn cael eu cyrraedd erbyn diwedd mis Mawrth flwyddyn nesaf sef diwedd tymor y Senedd cyn yr etholiad.

Oni bai fod y newid diweddar wedi digwydd fyddai dim modd gwybod yn swyddogol a gafodd y targedau eu cyrraedd neu beidio tan ganol fis Mai - ar ôl y diwrnod pleidleisio.

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cyhuddo'r llywodraeth o geisio "ymyrryd" yn yr ystadegau er lles etholiadol.

Ond gwrthod yr honiadau mae Llywodraeth Cymru, gan fynnu fod hyn yn caniatáu i ffigyrau perfformiad gael eu cyhoeddi mewn ffordd fwy amserol a thryloyw.

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud ei fod yn "ffyddiog" y bydd targedau'r llywodraeth yn cael eu gwireddu erbyn diwedd tymor y Senedd

Fis Ebrill diwethaf cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles dri tharged newydd ar gyfer lleihau rhestrau aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026 sef:

  • Lleihau'r cyfanswm ar restrau aros 200,000 (o thua 800,000 ar y pryd i 600,000);

  • Cael gwared yn gyfan gwbl ar achosion lle bo rhywun wedi aros dwy flynedd neu ragor am driniaeth;

  • Adfer uchafswm aros o wyth wythnos ar gyfer derbyn profion diagnosteg.

Yn ddiweddarach clustnododd y llywodraeth £120m i fyrddau iechyd er mwyn gwireddu'r targedau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei fod yn "ffyddiog y byddwn ni wedi cyrraedd y tri nod" erbyn diwedd tymor y Senedd.

O dan y drefn flaenorol fyddai ddim modd cadarnhau hynny yn swyddogol tan saith wythnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Mabon Ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod hyn yn ymgais gan Lywodraeth Cymru i "chwarae gyda'r ffigyrau".

"Mae'n ymddangos i fi ei fod e'n fwriad gan y llywodraeth i chwarae gyda'r ffigyrau oherwydd un mis fe fyddwn ni'n cael un set o ffigyrau, fis nesa' fe fydd y ffigyrau ychydig yn wahanol," meddai.

"Y gwir yw fydd hyn ddim yn helpu ni fel gwleidyddion ac yn sicr ddim yn helpu'r llywodraeth i wella polisi ac yn bendant ddim yn helpu'r degau o filoedd o bobl sy'n aros i gael eu gweld yn gynt."

Dywedodd James Evans, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr: "Credaf y dylai'r llywodraeth gyhoeddi ystadegau swyddogol yn gynt ac nid ystadegau dros dro.

"Fe allai hyn [y newid] ganiatáu i'r llywodraeth edrych yn dda cyn etholiad y Senedd, sy'n awgrymu ei fod yn digwydd er budd etholiadol.

'Galluogi ni graffu'n fanylach'

Gwrthod honiadau'r gwrthbleidiau mae Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae yna ddiddordeb cyhoeddus sylweddol yn amserau aros y GIG.

"Mae yna oedi o thua saith wythnos, cyn cyhoeddi'r ffigyrau swyddogol ond gall gwybodaeth reoli mewnol y gwasanaeth iechyd gynnig arwydd mwy amserol o berfformiad.

"Mae cyhoeddi'r data dros dro hwn yn ein galluogi i gyfathrebu'n dryloyw gynnydd yn erbyn ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a galluogi i bobl graffu'n fanylach ar berfformiad y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru."

Mae BBC Cymru yn deall fod penderfyniadau ynghylch ystadegau yn cael eu gwneud yn annibynnol gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru, ond bod y Gweinidog Iechyd wedi gofyn yn flaenorol i ystadegwyr ymchwilio a oedd modd cyhoeddi data mwy amserol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.