Dim newidiadau i'r tîm i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams yw prif sgoriwr Uwchgynghrair Lloegr y tymor yma

Mae Warren Gatland wedi enwi union yr un 15 a drechodd Yr Alban i herio Lloegr yn Twickenham yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Yr unig newid i'r garfan o 23 yw bod yr asgellwr George North wedi'i enwi ar y fainc, gydag Owen Watkin yn colli ei le.

Bydd y clo Cory Hill yn dechrau er iddo ddioddef ergyd i'w ben yn y fuddugoliaeth yn Stadiwm Principality, ond dyw Liam Williams ddim yn rhan o'r garfan.

Mae Gatland wedi penderfynu cadw ffydd yn asgellwr Caerwrangon, Josh Adams, fydd yn ennill ei ail gap yn Llundain.

Roedd Adams yn un o ddau chwaraewr newydd yn y garfan ar gyfer y Chwe Gwald, ond dyw'r llall - James Davies - ddim yn rhan o'r garfan unwaith eto.

Dywedodd Gatland ei fod yn gobeithio y bydd Hill yn holliach i ailddechrau hyfforddi gyda gweddill y garfan ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae George North wedi bod yn hyfforddi gyda gweddill y garfan ers dechrau'r wythnos

Fe wnaeth North ddioddef anaf i'w benglin ym mis Hydref a dyw ond wedi ymddangos tair gwaith i Northampton ers hynny, ond fe sgoriodd wrth iddo chwarae gêm lawn yn erbyn Harlequins nos Wener.

Mae wyth o chwaraewyr blaenllaw Cymru wedi'u hanafu, gyda Rhys Webb, Jonathan Davies, Dan Lydiate a Sam Warburton am fethu'r holl bencampwriaeth.

Mae disgwyl i Jake Ball hefyd golli pob gêm, mae Dan Biggar allan am y tair gêm gyntaf ac mae Rhys Priestland a Taulupe Faletau yn gobeithio bod yn holliach i herio Iwerddon ar 24 Chwefror.

Dywedodd Gatland bod Liam Williams wedi cael ei ryddhau i chwarae i Saracens y penwythnos yma mewn ymgais i wella ei ffitrwydd, gydag yntau hefyd yn anelu i fod yn rhan o'r garfan i wynebu'r Gwyddelod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryder am ffitrwydd y clo Cory Hill yn dilyn ergyd i'w ben ddydd Sadwrn

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; Josh Adams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, Steff Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Samson Lee, Cory Hill, Alun Wyn Jones (c), Aaron Shingler, Josh Navidi, Ross Moriarty.

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Aled Davies, Gareth Anscombe, George North.

Tîm Lloegr

Mike Brown; Anthony Watson, Jonathan Joseph, Owen Farrell, Johnny May; George Ford, Danny Care; Mako Vunipola, Dylan Hartley, Dan Cole, Joe Launchbury, Maro Itoje, Courtney Lawes, Chris Robshaw, Sam Simmonds.

Eilyddion: Jamie George, Alec Hepburn, Harry Williams, George Kruis, Sam Underhill, Richard Wigglesworth, Ben Te'o, Jack Nowell.