Tywydd garw: Dros 725 o ysgolion ar gau ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dros 724 o ysgolion wedi cadarnhau na fyddan nhw'n agor ddydd Iau oherwydd rhagolygon am dywydd gaeafol.
Mae cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd pob un o'u hysgolion nhw ar gau.
Hefyd mae cynghorau Ceredigion, Caerdydd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn cynghori ysgolion yno i ystyried aros ar gau ddydd Iau a dydd Gwener ar ôl canslo'r trefniadau dros dro i gludo disgyblion a myfyrwyr.
Mewn e-bost mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi'r un cyngor i holl ysgolion yr awdurdod, gan ddweud mai dyna'r cam y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo.
Fe fydd holl gampysau Prifysgol De Cymru - yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd - ar gau ddydd Iau a rhai staff yn gweithio o'u cartrefi.
Mae'r Swyddfa Dywydd, dolen allanol yn rhagweld cawodydd eira trwm yn rhannau helaeth o Gymru yn y dyddiau nesaf.
Mae cwmni Stena wedi canslo taith 08:00 o Rosslare i Abergwaun oherwydd y tywydd, ac mae Irish Ferries hefyd wedi canslo dwy daith rhwng Caergybi a Dulyn.
Dywedodd Bysiau Arriva bod rhai teithiau hefyd wedi eu canslo yng ngogledd Cymru.
Mae'r Urdd hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhaid ail-drefnu nifer o eisteddfodau cylch dros y penwythnos oherwydd y tywydd. Mae'r manylion i'w gweld ar wefan yr Urdd, dolen allanol.
Ysgolion
Mae manylion yr ysgolion sydd ynghau oherwydd tywydd garw ar gael ar wefannau'r cynghorau. Cliciwch ar y dolenni isod (nid yw'r wybodaeth ar gael yn Gymraeg ar bob gwefan):
Iechyd a diogelwch
Fe wnaeth rhai ysgolion gau am ail ddiwrnod ddydd Mercher o ganlyniad i'r eira, gyda rhesymau iechyd a diogelwch yn cael eu rhoi gan rai am y cau.
Fe wnaeth eira ddisgyn mewn rhannau eraill o Gymru dros nos, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio cerddwyr a mynyddwyr bod angen cyfarpar a gofal arbennig os am fentro i Eryri.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru na fyddai trenau'n rhedeg rhwng Caerdydd a Chaergybi o gwbl ddydd Mercher, ond mae'n ymddangos nad y tywydd yw'r rheswm am hynny.
Yn y cyfamser, mae rhybudd oren am eira'n parhau ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Iau a dydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira ledaenu ar draws y wlad brynhawn dydd Iau, cyn trymhau gyda'r nos.
Yn ôl y rhagolygon, fe allai rewi dros nos Iau a bore Gwener, gyda gwyntoedd cryfion yn chwythu o gyfeiriad y dwyrain.
Fe allai hyn arwain at oedi a gohirio gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus, a cholli cyflenwad trydan i gartrefi.
Mae pobl yn cael eu cynghori i fod yn ofalus ac i feddwl ddwywaith cyn mentro allan os daw tywydd garw.
Methu cyrraedd y gwaith?
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mercher, bu'r gyfreithwraig cyflogaeth Nia Cooper o Capital Law yn esbonio beth yw hawliau gweithwyr os na fyddan nhw'n gallu cyrraedd oherwydd eira.
Os yw rhieni'n methu â mynd i'r gwaith oherwydd bod eu plant gartref o'r ysgol, dywedodd fod ganddyn nhw "hawl i gymryd amser rhesymol" o'r gwaith ar gyfer delio gydag argyfwng domestig.
"Felly byddai sefyllfa lle bo gyda chi ddim gofal plant ar gael, a bod hynny'n hollol annisgwyliedig, bydde hawl gyda chi adael y gwaith er mwyn mynd i ofalu am y plant.
"O ran yr amser ry chi'n gymryd i ffwrdd, fe fydde rhaid i hynny fod yn fyrdymor - dau ddiwrnod ar y mwyaf byddwn i'n dweud.
"Bydde'r amser hynny'n ddi-dal oni bai bod eich contract - contract of employment - yn dweud rhywbeth gwahanol."
Ychwanegodd, os nad oes modd i weithwyr gyrraedd y gwaith, byddai'r amser hwnnw o'r gwaith, fel arfer yn ddi-dâl: "Eich dyletswydd chi yw hi i gyrraedd y gwaith, ac er bod gan y cyflogwr ddyletswydd gofal i chi, dyw hynny ddim yn cicio i fewn mewn gwirionedd tan eich bod chi'n cyrraedd y gwaith, felly os nad ydych chi'n gallu cyrraedd y gwaith, bydde'r amser yn ddi-dâl."
Yn y cyfamser, mae elusen y Groes Goch yn paratoi i ddarparu cymorth i weithwyr brys allai gael trafferth cyrraedd y gwaith mewn tywydd garw.
Maen nhw'n gofyn am fwy o wirfoddolwyr i fod ar gael i yrru gweithiwr, fel staff ysbyty, i'w gwaith ac yn ôl adref.
Dywedodd Aimee Thomas, sy'n swyddog ymateb argyfwng gyda'r Groes Goch, bod y gwasanaeth yn un gwerthfawr: "Da ni yn helpu un person i fynd mewn i'r hospital - ella maen nhw'n gallu helpu deg neu gannoedd o bobl sydd yn yr hospital."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018