Lluniau: Mae'r eira'n dal yma!
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n mwynhau'r eira? Dyma ddewis o'ch lluniau ar 7 Chwefror.
Anfonwch eich lluniau chi ar Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol, neu trwy anfon e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk


Yr haul yn codi dros Llanycefn, Sir Benfro

Wel? I ba gyfeiriad ewch chi heddiw?

"Mam! Rwy 'di clirio'r eira o'r ardd." Yr eira'n drwch yn Waunfawr heddiw

Mae gan Cai Phillips waith clirio i'w wneud cyn mentro am Ysgol Bro Myrddin.

Roedd yn rhaid i Ffion Emlyn fod yn ofalus wrth yrru o Feddgelert i Fangor

Wedd hi'n wêr ar y mini yn Mynachlog-Ddu, Sir Benfro wedi i drwch ychwanegol o eira syrthio dros nos.

Eira'r Preselau

Ydy hi'n ddoeth rhoi'r dillad i sychu ynte' fydd 'na ragor o eira?
