Snowsill a Harries yn ôl yn nhîm merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dau o chwaraewyr rygbi Cymru, Elinor Snowsill a Sioned Harries yn mynd yn syth o dwrnament saith-bob-ochr yn Awstralia i chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
Roedd Snowsill a Harries yng ngharfan Cymru yn nhwrnament Super 7s yn Brisbane.
Maen nhw'n dychwelyd i'r tîm wrth i'r hyfforddwr Rowland Phillips wneud tri newid ar ôl curo'r Alban o 18-17.
Jodie Evans sy'n ildio ei lle i Snowsill, ac mae Natalia John yn camu o'r neilltu yn y blaenwyr.
Rhiannon Parker fydd yn cymryd lle Jade Knight fel mewnwr, ac wrth i Harries ddychwelyd fe fydd Siwan Lillicrap yn symud i'r ail reng yn lle John.
Mae Hannah Jones, oedd hefyd yn Brisbane, yn ôl yn y garfan ar y fainc.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal am 12:15 ddydd Sadwrn yn Twickenham Stoop.
Tîm Cymru
Elinor Snowsill; Hannah Bluck, Kerin Lake, Rebecca De Filippo, Jess Kavanagh-Williams; Robyn Wilkins, Rhiannon Parker; Caryl Thomas, Carys Phillips (c), Amy Evans, Siwan Lillicrap, Mel Clay, Alisha Butchers, Beth Lewis, Sioned Harries.
Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Cerys Hale, Natalia John, Nia Elen Davies, Jade Knight, Lleucu George, Hannah Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018