Gwrthod cynnig gwerth £8m am brydles Parc yr Arfau

  • Cyhoeddwyd
Richard Holland a Peter ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y prif weithredwr Richard Holland gyda'r cadeirydd Peter Thomas

Mae Gleision Caerdydd yn dweud bod perchnogion Parc yr Arfau wedi gwrthod cynnig gwerth £8m am brydles 150 mlynedd ar gyfer y stadiwm.

Mae cytundeb presennol y Gleision yn dod i ben yn 2022, ac mae'r opsiwn o symud i gyfleusterau eraill yn cael ei ystyried.

Mae'r prif weithredwr Richard Holland wedi cyfaddef bod ôl-ddyledion rhent yn ddyledus i'r perchnogion, Clwb Athletau Caerdydd (CAC), oherwydd "problemau llif arian" ond mae Mr Holland wedi addo gwneud "taliad llawn".

Mae Mr Holland hefyd yn dweud eu bod yn y "cyfnodau olaf" o ddod o hyd i olynydd i'r prif hyfforddwr Danny Wilson.

Roedd y Gleision wedi cyflwyno cynlluniau i gynnal gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd i'r stadiwm, ond gwrthodwyd y cynllun hwnnw gan CAC yn 2017.

Dywedodd y prif weithredwr Holland nad yw'r opsiwn o chwilio am gartref newydd yn "benderfyniad sy'n cael ei wneud yn ysgafn".