Parc Cenedlaethol Eryri'n trafod toriadau £800,000

  • Cyhoeddwyd
Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu sut y byddan nhw'n arbed bron i £800,000 yn dilyn toriad i'w cyllideb.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau'r awdurdod gynnig sawl argymhelliad ar sut i sicrhau arbedion o £788,674 erbyn 2020.

Yn ogystal â chynyddu incwm drwy gynyddu prisiau parcio a gwneud arbedion effeithlonrwydd, dywedodd yr awdurdod y byddai gostyngiad mewn gwasanaeth sy'n "anorfod" yn cael effaith ar swyddi.

Daw ar ôl i brif weithredwr y parc alw'r toriadau sy'n cael eu gorfodi ar barciau cenedlaethol yn "frawychus".

Argymhellion

Mae'r awdurdod yn dweud y bydd grant Llywodraeth Cymru erbyn 2020 yn llai na'r hyn dderbyniodd yr awdurdod yn 2001.

Yn y cyfarfod ddydd Mercher, fe wnaeth yr aelodau gytuno ar dri argymhelliad:

  • Cynyddu incwm o feysydd parcio a chanolfan addysg yr awdurdod - Plas Tan y Bwlch;

  • Gwneud arbedion effeithlonrwydd yn cynnwys darparu gwybodaeth electroneg yn hytrach na phapur a chau toiledau;

  • Gostwng lefel gwasanaeth drwy leihau grantiau gwaith coed, lleihau gwariant ar hawliau tramwy cyhoeddus a lleihau gwariant ar gontractwyr.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd y mesur olaf yn "anorfod yn cael effaith ar swyddi yn yr awdurdod".

'Eithriadol o bryderus'

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Emyr Williams: "Mae'n gyfnod anodd ac yn eithriadol o bryderus i ni fel staff ac i aelodau'r awdurdod.

"Rydym ni eisoes wedi colli 40 o swyddi gwerthfawr yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, sy'n golled enfawr i ardal wledig fel hon.

"Heddiw, bu'n rhaid i ni ystyried colli mwy o swyddi a hynny er bod angen i ni gyflawni mwy rŵan nag unrhyw bryd arall yn ein hanes."

Disgrifiad,

Owain Wyn sy'n esbonio'r heriau ariannol i'r awdurdod

Dywedodd Owain Wyn, cadeirydd yr awdurdod: "Mae rhywun yn amlwg yn trio gweithio y tu ôl i ddrysau caeedig i drio dylanwadu ar y sefyllfa, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon pendant yn dweud 'na, mae'n rhaid i chi ysgwyddo'r baich'.

"Y bechod ydy fod o'n ymddangos fod y baich yna'n drymach na rhai gwasanaethau eraill.

"Effaith hynny 'di golygu ein bod ni'n gorfod chwilio am arbedion gwerth £800,000 dros ddwy flynedd.

"Mae chwarter cyllideb yr awdurdod yn mynd ar y gwasanaeth mynediad a chefn gwlad ac wardeniaid yn rhan o hynny. Mae'n anochel y bydd yna edrych ar yr ochr yna'n benodol."