Ymateb cymysg i ganolfan hamdden newydd Llanelli

Hen lun o gynlluniau Canolfan Hamdden newydd yn Llanelli, Pentref AwelFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 2017, gyda chyllideb o dros £200 miliwn dan arweiniad Cyngor Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd

Mae rhan o ganolfan hamdden newydd Llanelli, Pentref Awel, ar fin agor am y tro cyntaf, ar ôl blynyddoedd o ddatblygu ac oedi.

Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 2017, gyda chyllideb o dros £200 miliwn dan arweiniad Cyngor Sir Gâr.

Mae'r cam cyntaf wedi'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40m) a chyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae yna wahaniaeth barn ynghylch y prosiect yn lleol oherwydd ei gost a'i leoliad, mae rhai busnesau lleol yn poeni y bydd yn gyrru masnach allan o ganol y dref.

Bydd cam cyntaf y pentref lles, sef Canolfan Pentre Awel, yn agor i'r cyhoedd am 16:00 ddydd Mercher 15 Hydref ac mae'n cynnwys pwll nofio wyth lôn, campfa, a phwll hydrotherapi.

Peter Norrie mewn crys-t glasFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Peter Norriefe ddylai'r awdurdodau fuddsoddi mwy yng nghanol y dref

Un sy'n poeni am effaith y datblygiad ar y dref yw Peter Norrie, sy'n rhedeg stondin ym marchnad Llanelli.

Roedd o'r farn y "dylen nhw 'di hala'r arian yn y dre yn gyntaf."

"Mae lot o bobl heb geir, 'wnaethon nhw'r un mistake pan agoron nhw Trostre.

"Ac mae'r dre yn hyfryd, mae lot o bobl yn angerddol iawn dros y dre."

Dylan Broderick, 27 mewn crys-t duFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dylan Broderick, 27, yn defnyddio'r gampfa newydd ym Mhentre Awel

Yn ôl Dylan Broderick, 27, mae angen i bobl "roi cyfle iddo fe."

"'Neith digon o bobl 'weud bod angen gwneud pethau eraill yng nghanol y dref gyda'r siopau sy'n wag, ond o ran iechyd mae cyfleusterau fel 'na'n mynd i roi mwy o fantais i bobl."

Mae'r datblygiad wedi bod yn y penawdau dros y blynyddoedd, ac fe gafodd ei grybwyll yng nghanol dadl yn 2019 ar ôl i ddau academydd o Brifysgol Abertawe fethu â datgan eu buddiannau ariannol yn y datblygiad gwerth £200m.

Cafodd y ddau eu diswyddo o'u swyddi yn y brifysgol.

Pwll nofioFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae agoriad Pentre Awel yn golygu y bydd Canolfan Hamdden Llanelli yn cau

Mae Clwb Nofio Llanelli wedi ei lleoli yng nghanolfan Hamdden Llanelli ers 1964.

Ond maen nhw wedi wynebu sawl her dros yr hanner ganrif ddiwethaf yn ôl y prif hyfforddwr, Steffan Jones.

"Bu'r pwll ar gau yn 1992 pan o'n i'n aelod achos oedd y teils yn cwympo bant o'r wal," meddai.

"Roedd y pwll ar gau am ryw flwyddyn a chollon ni sawl aelod. Digwyddodd rhywbeth tebyg yn 2016 pan oedd problemau gyda'r to.

"Felly dros yr amser mae sawl peth wedi effeithio'r clwb wrth i'r adeilad heneiddio."

Sicrhau 'sefydlogrwydd'

Dywedodd Steffan Jones bydd symud i Bentre Awel yn rhoi "sefydlogrwydd" i'r unig glwb nofio yn Llanelli.

"Ni'n cynyddu o chwech i wyth lôn felly bydd mwy o gapasiti i'r clwb i dyfu."

"Mae plant dyddiau hyn yn gwneud llawer o chwaraeon.

"Ma' cyfleusterau ffantastig ym meysydd gymnasteg a phêl droed gyda'r meysydd 4G sydd rownd y lle nawr.

"Mae'n amlwg yn rhywbeth sydd eisiau ni frwydro yn erbyn."

Steffan Jones mewn crys-t cochFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Steffan Jones bydd Pentre Awel yn rhoi "sefydlogrwydd" i'r clwb

Bydd gan Bentre Awel gloc amseru newydd i'r clwb nofio. Mae'r cloc sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd dros 30 mlwydd oed.

"Dwi'n meddwl oedd y cloc wedi costio £25,000 yn 1995, fydden i ddim yn licio meddwl beth fydde cost hwnna erbyn heddiw."

Bydd y datblygiad yn golygu y bydd Canolfan Hamdden bresennol Llanelli yn cau.

Yn ôl Cyngor Sir Gâr maen nhw'n asesu'r posibilrwydd o ailddefnyddio'r safle ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant.

Mae disgwyl i ganfyddiadau'r adroddiad gael eu cyhoeddi tua diwedd y flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig