Achosion o aflonyddu ar drenau yn 'siomedig tu hwnt'

Rhiannon Williams yn sefyll ar blatfform orsaf drennau, gyda tren yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Fe brofodd Rhiannon Williams a'i ffrindiau achos o aflonyddu wrth deithio ar drên o Ddinbych-y-pysgod i Lanelli fis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc yn dweud bod profiad diweddar o aflonyddu rhywiol ar drên wedi gwneud iddi deimlo'n "gaeth", wrth i ystadegau ddangos cynnydd yn nifer yr adroddiadau dros y degawd diwethaf.

Fe gafodd 2,661 o ddigwyddiadau eu hadrodd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban y llynedd gydag 1 o bob 10 yn ymwneud â phlant - a rhai'n iau nag 13 oed.

Dywedodd Rhiannon Williams, 18, fod y profiad yn un "amhleserus" ac wedi rhoi hi a'i ffrindiau "dan straen" gan eu bod yn teimlo'n "stuck yn y sefyllfa yma".

Mae un elusen yn dweud bod achosion yn cael eu tanadrodd, ac maen nhw'n annog dioddefwyr i fynd at yr heddlu.

Gorsaf trennau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig fwy na 2,600 o adroddiadau'n ymwneud ag achosion o aflonyddu rhywiol ar drenau y llynedd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Fe aeth Rhiannon Williams, 18, a'i ffrindiau ar drên o Lanelli er mwyn treulio un o ddyddiau olaf yr haf yn Ninbych-y-pysgod.

Ond yn ystod eu taith adref, fe aeth grŵp o ddynion atyn nhw a gwneud sylwadau anaddas.

Dywedodd Rhiannon: "Roedden nhw'n swnllyd iawn ac wedi dechrau gwneud llawer o jôcs amhriodol tuag aton ni.

"Roedden nhw'n jôcs chwerw iawn tuag at fenywod, ac yn rhai rhywiol eu natur, ac roedden nhw jest yn gwneud i ni deimlo'n anghyfforddus ac eitha' pryderus hefyd."

Dioddefwyr yn 'teimlo'n ddi-bŵer'

Ar ôl i un o'r dynion ddod i eistedd wrth eu hymyl ar y bwrdd, bu rhaid i un o ffrindiau Rhiannon symud gan fod y dyn yn ymddwyn yn "pushy iawn."

"Roeddwn i a fy ffrindiau wedi penderfynu mai'r peth gorau i'w wneud oedd cadw'n dawel, oherwydd doedden ni ddim yn gwybod sut y gallwn ni stopio'r sefyllfa."

"Ar ben popeth, roedd e wedi gwneud i ni deimlo'n powerless oherwydd roedden ni'n stuck yn y sefyllfa yma gyda grŵp mawr o ddynion oedd yn dweud beth bynnag wrthon ni."

Mae ystadegau gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn dangos bod adroddiadau o droseddau rhyw ar drenau wedi cynyddu o 37% dros y degawd diwethaf.

Bu mwy na 2,600 o adroddiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y llynedd ac yng Nghymru, roedd 26% o'r achosion yn ymwneud â phlant.

Bysedd yn teipio ar ffon
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth teithiwr arall ar y trên roi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig am y digwyddiad drwy anfon neges destun

Fe barhaodd y digwyddiad am 20 munud cyn i fenyw arall ar y trên ymyrryd yn y sgwrs.

Dywedodd Rhiannon: "Dwi'n meddwl yr oedd hi'n gallu gweld ein bod ni'n teimlo'n anghyfforddus drwy edrych ar ein wynebau".

Ar ôl i'r ddynes ymyrryd, dechreuodd y dynion anelu'r sylwadau ati hi.

Penderfynodd y fenyw roi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydain am y digwyddiad drwy anfon neges destun, rhywbeth nad oedd Rhiannon yn gwybod oedd yn bosibl ei wneud.

"Roedd pob un o ni'n ddiolchgar iawn ei bod wedi gwneud hynny" gan ychwanegu, "os na fyddai wedi, dwi'n credu y bydden nhw wedi cario 'mlaen".

Mae Rhiannon yn credu bod angen "mwy o hysbysebu" ynghylch yr opsiynau sydd ar gael i fenywod sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg.

Ar ôl i'r fenyw ddweud wrth y dynion ei bod wedi cysylltu â'r heddlu, fe adawon nhw'r trên yn yr orsaf nesaf.

'Tydi'r broblem ddim yn lleihau'

Ann WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Williams o elusen Cymorth i Ferched Cymru yn erfyn ar ddioddefwyr i siarad â'r heddlu

Mae Ann Williams, o elusen Cymorth i Ferched Cymru'n dweud ei bod wedi arfer â derbyn galwadau am ddigwyddiadau o'r fath gan ddioddefwyr.

"'Da ni'n gwybod nad yw achosion o'r fath yma o drais yn cael eu hadrodd yn fuan wedi iddyn nhw ddigwydd.

"Ni'n mynd ymlaen am [aflonyddu rhywiol] mor hir, a tydi'r broblem ddim i weld yn lleihau."

"Os nad ydyn nhw'n cael y glust yna o fewn yr heddlu, lle arall maen nhw fod i fynd?"

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud eu bod yn cymryd achosion o aflonyddu ar drenau o ddifrif.

Fe ddywedodd Dylan Nicholas o'r cwmni: "Mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni.

"Rydym yn cyd-weithio â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i blismona, hyfforddi staff, i sicrhau bod staff yn gwisgo camera corff, a hefyd gwneud yn siŵr bod staff diogelwch yn cael eu darparu i leoliadau arbennig pan bod angen."

Ychwanegodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig eu bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r mater, ac yn annog dioddefwyr a llygaid dystion i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad drwy anfon neges destun at rif 61016.

Heddwas Heddlu Trafnidiaeth Prydienig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud eu bod yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i hyfforddi eu staff

Wrth edrych yn ôl ar ei phrofiad, mae Rhiannon o'r farn nad yw rhai achosion o aflonyddu'n cael eu hadrodd i'r heddlu gan fod dioddefwyr yn cwestiynu'r difrifoldeb.

"Mae'r ymddygiad yma'n cael ei normaleiddio," meddai.

"Oherwydd doedd dim byd corfforol wedi digwydd, doedd e ddim yn teimlo'n ddigon difrifol i ddweud rhywbeth wrth yr heddlu trafnidiaeth."

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn parhau i ymchwilio i'r mater.

Pynciau cysylltiedig