Ymgeiswyr isetholiad Caerffili i fynd benben mewn dadl fyw

Mi fydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr isetholiad i Senedd Cymru yng Nghaerffili yn cymryd rhan mewn dadl deledu nos fercher ar y BBC.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu o Sefydliad a Neuadd y Gweithwyr Bedwas rhwng 19:00 – 20:00.
Mae'r isetholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref yn dilyn marwolaeth sydyn yr aelod Llafur o Senedd Cymru, Hefin David, ym mis Awst.
Bydd ymgeiswyr Llafur, y Ceidwadwyr, Reform UK, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd yn cymryd rhan.

Dyma'r holl ymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad ar 23 Hydref
Daw'r ornest fisoedd cyn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru, gyda'r polau piniwn Cymreig yn awgrymu'n gynyddol bod Plaid Cymru a Reform mewn sefyllfa gref i herio Llafur.
Bydd ymgeiswyr Llafur, y Ceidwadwyr, Reform UK, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a'r Blaid Werdd yn cymryd rhan yn y ddadl deledu.
Dyma'r pleidiau sydd â thystiolaeth o gefnogaeth etholiadol yng Nghaerffili, gydag ystyriaeth wedi ei rhoi i etholiadau blaenorol yn ogystal â pholau piniwn diweddar yng Nghymru.
Bydd y ddau ymgeisydd arall, sy'n cynrychioli Gwlad a UKIP, yn ymddangos ar raglen Wales Today cyn i'r ddadl ddechrau.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y ddadl?
Bydd y ddadl nos Fercher yn cael ei darlledu'n fyw ar BBC 1 Wales, sianel newyddion y BBC, iPlayer a Radio Wales.
Yn ystod y rhaglen, a gaiff ei chyflwyno gan Nick Servini, bydd aelodau o'r gynulleidfa yn cael gofyn cwestiynau.
Mae'r gynulleidfa o 74 o bobl wedi ei dewis yn ofalus er mwyn sicrhau trawstoriad o safbwyntiau.
Ar ddiwedd y ddadl bydd yr ymgeiswyr yn cael gwneud datganiadau terfynol.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 Hydref
Dyma'r bumed isetholiad i'r Senedd ers dechrau datganoli yn 1999, a gydag etholiad y flwyddyn nesaf ar y gorwel dyma'r mwyaf arwyddocaol.
Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i Lafur ers dros ganrif, gyda'r blaid yn ennill yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth ym 1918, ac ym mhob etholiad i Fae Caerdydd.
Ond, o ystyried yr arolygon barn, mae Plaid Cymru a Reform yn gweld cyfle i brofi pwynt cyn etholiad mis Mai.
Pe bai Llafur yn colli, byddai hynny'n gadael Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru gan ei gwneud hi'n anoddach i'r llywodraeth basio'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
O ganlyniad byddai dod i gytundeb gydag unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru, fel gwnaeth y llywodraeth eleni i basio'i chynlluniau gwario, ddim yn ddigon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.