Beirniadu cynnig 'munud olaf' i rannu dogfennau Brexit

  • Cyhoeddwyd
Rhan o'r llythyr at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llythyr Mr Walker yn cynnig i'r ACau weld y dogfennau ar adegau penodol dros ddeuddydd

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o roi cynnig "munud olaf" i Aelodau Cynulliad weld y dogfennau sy'n asesu effaith botensial Brexit, ac o wneud hynny "heb frwdfrydedd".

Mae'r gweinidog Brexit Robin Walker wedi cynnig cyfle i ACau ddarllen y papurau mewn ystafell ddarllen breifat.

Ond yn wreiddiol roedd ond cyfle i wneud hynny yn ystod pedwar cyfnod penodol dros ddau ddiwrnod yn olynol.

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns bellach wedi rhoi caniatâd i ACau gael mynediad i'r ystafell ddarllen "drwy gydol wythnos nesaf".

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.

Asesiad cychwynnol

Roedd manylion y cyfnodau dan sylw mewn llythyr gafodd ei ddanfon at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones ddydd Mercher 7 Chwefror.

Y cynnig oedd i'r dogfennau fod ar gael i'r ACau rhwng 11:00 a 13:00 a rhwng 14:00 a 17:00 ddydd Iau 8 Chwefror a dydd Gwener 9 Chwefror.

Dywedodd Mr Walker y byddai swyddog o Lywodraeth y DU yn yr ystafell ddarllen ym Mae Caerdydd drwy'r amser.

Yn dilyn cwynion fe ysgrifennodd Mr Cairns at Ms Jones yn dweud: "Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael digon o amser i graffu'r ddogfen, felly rwyf wedi penderfynu agor yr ystafell ddarllen ar eich cyfer drwy gydol wythnos nesaf."

Cafodd y papurau, sy'n cael eu disgrifio fel "asesiad cychwynnol", eu cyflwyno i bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn gynharach yr wythnos yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dogfennau'n amlinellu tri senario posib wedi'r i'r DU adael y UE

Maen nhw'n awgrymu y gallai twf economi Cymru fod yn is na'r rhagolygon presennol - hyd at 9.5% yn llai dros 15 mlynedd petai dim cytundeb rhwng y DU a'r UE, 1.5% petai'r DU yn aros o fewn y farchnad sengl, a 5.5% yn achos cytundeb masnach rydd gyda'r UE.

Mae ystafelloedd darllen cyfrinachol hefyd wedi cael eu trefnu yn San Steffan ac yng Nghaeredin fel bod ASau ac aelodau Senedd Yr Alban (MSP) yn gallu gweld y dogfennau.

Roedd ymateb chwyrn yn Yr Alban i lythyr cyfatebol gan Mr Walker i'r aelodau'r Alban yn amlinellu amodau tebyg i'r rhai ar gyfer ACau yng Nghaerdydd.

'Dirmyg llwyr'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae Llywodraeth y DU yn trin Cymru a'i phobl gyda dirmyg llwyr.

"Mae ASau a'r Arglwyddi yn cael gweld y papurau dros gyfnod o wythnosau ac o'r herwydd fe fyddan nhw'n gallu craffu'r cynnwys yn fanwl.

"Mae'r dogfennau yma'n cynnwys gwybodaeth hollbwysig a rhagolygon ynghylch beth yn union fyddai Brexit yn ei olygu i'n heconomi.

"Fe ddylai cynrychiolwyr etholedig Cymru gael yr un hawl ac amser i'w harchwilio ag ASau yn San Steffan."

Ond ar ei gyfrif Twitter fe ysgrifennodd AC annibynnol Gorllewin De Cymru, Mark Reckless, sy'n cefnogi Brexit: "Pam fydden ni'n dymuno darllen rwtsh gan broffwydi sydd heb hygrededd ar ôl darogan dirwasgiad yn syth wedi pleidlais Gadael?"