'Dim cytundeb Brexit': Cymru heb baratoi, medd ACau

  • Cyhoeddwyd
David Rees AC
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David Rees yn yr adroddiad bod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o arweiniad i gyrff a mudiadau ar draws Cymru.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi paratoi ar gyfer sefyllfa pe bai'r DU yn methu â sicrhau cytundeb Brexit, yn ôl adroddiad i'r Cynulliad.

Fe fynegodd y Pwyllgor Materion Allanol "syndod bod dim cynlluniau" i baratoi am y posibilrwydd o fethu â dod i gytundeb gyda'r UE.

Mae'n galw ar y llywodraeth ym Mae Caerdydd i wella'u cynlluniau, ac i roi mwy o arweiniad i gyrff a mudiadau Cymru.

Ceisio osgoi sefyllfa 'dim cytundeb' yw'r "prif flaenoriaeth", medd Llywodraeth Cymru.

'Pam ddim Cymru?'

Yn yr adroddiad, dywed cadeirydd y pwyllgor, David Rees, bod yr aelodau'n glir na fyddai sefyllfa 'dim cytundeb' ar 29 March 2019 yn ddymunol.

Ond tra bo sefyllfa o'r fath yn dal yn bosib, mae'r pwyllgor yn dweud bod "angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer yr holl bosibiliadau gwahanol.

"Mae llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol yn rhannau eraill o'r UE, a'r Comisiwn Ewropeaidd ei hun, â threfniadau ar gyfer sefyllfa [dim cytundeb] o'r fath. Pam ddim Cymru?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod y Llywodraeth wedi bod yn cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol o'r dechrau.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, a ddywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer posibiliadau gwahanol o'r dechrau.

Ond fe ddywedodd hefyd "na fydd yr un swm o arian cyhoeddus, a faint bynnag o baratoi, yn atal y niwed a ddaw i Gymru a'r economi o ganlyniad gadael yr UE heb cytundeb".

Dywed yr adroddiad, sy'n gwneud saith argymhelliad, bod cyrff ar draws Cymru angen "arweiniad cryfach" gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y dylien nhw baratoi ar gyfer Brexit.

"Mae sectorau a mudiadau yn edrych tua Llywodraeth Cymru am arweiniad ac mae'n hanfodol eu bod yn gallu dechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r UE," dywedodd Mr Rees.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad, sy'n amserol iawn yn dilyn cyhoeddiad ein papur masnach Brexit ni sy'n cyflawni llawer o argymhellion y pwyllgor.

"Edrychwn ymlaen at drafod ymhellach gyda'r pwyllgor ac fe wnawn ni ymateb i'r adroddiad yn fanwl maes o law.

"Rydym wedi dweud yn gyson y byddai sefyllfa 'dim cytundeb' yn ganlyniad dychrynllyd i Gymru a'r DU, ac ein prif flaenoriaeth yw i weithio yn erbyn y posibiliad yna."