Plant mor ifanc ag 11 oed wedi'u dal yn cario cyllyll

  • Cyhoeddwyd
Cyllell

Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod bod plant mor ifanc ag 11 oed wedi cael eu dal yn cario cyllyll yng Nghymru.

Fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth i luoedd heddlu Cymru ddatgelu bod heddluoedd y de, y gogledd a Gwent wedi delio â phlant 11 oed am gario cyllell.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod hefyd wedi cymryd gynnau oddi ar blant ysgol yn 2015 a 2017.

Daw wrth i brif gwnstabl Heddlu De Cymru rybuddio bod plant yn "cael eu denu at ddiwylliant o gario cyllyll".

'Deall y canlyniadau'

Dywedodd y prif gwnstabl Matt Jukes bod y rhesymau mae pobl ifanc yn cario cyllyll yn gallu amrywio o amddiffyn eu hunain i feddwl ei fod yn "cŵl".

Ychwanegodd bod heddweision yn siarad â phobl ifanc mewn ysgolion ac yn y gymuned am ganlyniadau troseddau â chyllyll.

"Y trychineb yw, os ydych chi'n cario cyllell, mae'n fwy tebygol y byddwch chi'n ddioddefwr o drosedd â chyllell o ganlyniad i'r gwrthdaro all godi," meddai Mr Jukes.

"Pobl ifanc bregus yw'r rhain, sy'n cymryd risg anferth gyda'u diogelwch, a dydyn nhw ddim wastad yn deall y canlyniadau o fod yn gysylltiedig â'r math yna o weithred."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Matt Jukes bod plant yn "cael eu denu at ddiwylliant o gario cyllyll"

Dywedodd Mr Jukes bod heddweision Cymru'n gweld cynnydd mewn troseddau'n defnyddio cyllyll, fel yng ngweddill y DU.

"Rydyn ni'n bendant yn delio gyda mwy o ddigwyddiadau," meddai.

"Mae'n bwysig dweud, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU dyw'r cynnydd ddim mor sylweddol, ond mae'n fater mawr i ni yma yng Nghymru.

"Rydych chi'n clywed hynny gan unedau brys hefyd - maen nhw'n gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod mewn gydag anafiadau sydd wedi'u hachosi gan gyllyll."