Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Halifax
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam ostwng i'r ail safle yn y Cynghrair Cenedlaethol wrth iddynt orfod bodloni ar bwynt gartref yn erbyn Halifax.
Scott Boden roddodd y Dreigiau ar y blaen ar ôl 19 munud, yn penio i gefn y rhwyd o groesiad Kevin Roberts.
Daeth Halifax yn gyfartal ychydig cyn yr egwyl, diolch i beniad Scott McManus.
Yn ffodus i Wrecsam fe wnaeth Tom Denton fethu dau gyfle gwych i'r ymwelwyr yn yr ail hanner.