Pro 14: Gleision Caerdydd 25-20 Cheetahs

  • Cyhoeddwyd
Ellis Jenkins yn sgorio ail gais y GleisionFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ellis Jenkins yn sgorio ail gais y Gleision

Yn eu gêm gyntaf yn y Pro14 yn erbyn gwrthwynebwyr o Dde Affrica fe wnaeth y Gleison ddathlu buddugoliaeth yng Nghaerdydd.

Aeth y Cheetahs ar y blaen drwy gais Ox Nche ond tarodd y Gleision yn ôl cyn yr egwyl gyda Ray Lee-Lo ac Ellis Jenkins yn croesi'r llinell.

Fe wnaeth rhediad cryf Nick Williams ymestyn mantais y tîm cartref, dim ond i drosgais Uzair Cassiem gau'r bwlch unwaith eto.

Er gwaethaf ymdrechion y Cheetahs yn hwyr yn y gêm fe wnaeth amddiffyn y Gleision ddal yn gadarn.