Cabinet Sir Benfro yn cytuno cynnydd treth cyngor o 12.5%
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cynlluniau i gynyddu treth cyngor o 12.5% yn 2018-19.
Dywedodd arweinydd y cyngor, David Simpson y byddai rhai pobl yn "grwgnach" ond fod angen y cynnydd er mwyn "achub y gwasanaethau sydd angen i ni eu gwarchod".
Ychwanegodd yr aelod cabinet dros gyllid, Bob Kilmister fod angen i gynghorwyr "fod yn ddewr a gwneud y peth iawn".
Cafodd y cynnig ei basio'n unfrydol gan y cabinet, a bydd nawr yn wynebu pleidlais o'r cyngor llawn ar 8 Mawrth.
'Hynod o isel'
Dywedodd y cynghorydd Kilmister fod angen i'r cyngor wneud £16.4m o arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gyda £10m yn dod o doriadau, £0.7m yn dod o'r arian wrth gefn, a £5.7m ychwanegol yn dod o gynnydd yn y dreth cyngor.
Ychwanegodd y gallai'r cynnydd fod yn niweidiol tu hwnt yn wleidyddol, ond fod "y dewis arall yn rhy annymunol".
Yn Lloegr mae cyfartaledd y dreth cyngor ar gyfer tai Band D yn £1,591 - ar draws Cymru mae'n £1,162 ond yn Sir Benfro mae'n £883.
Dywedodd y cynghorydd Kilmister y byddai'r cynnydd, fyddai'n golygu £2.11 yr wythnos yn ychwanegol i dai Band D, yn mynd i'r afael a'r lefel "hynod o isel" o dreth cyngor yn y sir ar hyn o bryd.
Ychwanegodd aelod cabinet arall, Neil Prior, fod "dim dewis" gan gynghorwyr ond cymeradwyo'r cynnydd o 12.5%.